2 Corinthiaid 6
6
A.D. 60. —
1 Ddarfod iddo ei ddangos ei hun yn weinidog ffyddlon i Grist, trwy ei gynghorion, 3 a diniweidrwydd ei fuchedd, 4 a’i ddioddefgarwch mewn pob math ar gystudd ac amarch er mwyn yr efengyl: 11 am yr hon y mae efe yn fwy hyf yn llefaru yn eu plith, am fod ei galon ef yn agored iddynt: 13 ac y mae efe yn disgwyl am y ewyllysgarwch cyffelyb oddi wrthynt hwy; 14 gan eu hannog i ochelyd cymdeithas ac aflendid eilun‐addolwyr, a hwythau yn demlau y Duw byw.
1A ninnau, #1 Cor 3:9gan gydweithio, ydym yn atolwg i chwi, #Pen 5:20; Heb 12:15na dderbynioch ras Duw yn ofer: 2(Canys y mae efe yn dywedyd, #Esa 49:8Mewn amser cymeradwy y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais: wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.) 3#1 Cor 10:32Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth: 4Eithr gan ein #6:4 canmol, Pen 4:2dangos ein hunain ym mhob peth #1 Cor 4:1fel gweinidogion Duw, mewn amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau, 5#Pen 11:23Mewn gwialenodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau, 6Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd Glân, mewn cariad diragrith, 7Yng ngair gwirionedd, yn #1 Cor 2:4nerth Duw, trwy #Pen 10:4; Eff 6:11, 13; 2 Tim 4:7arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar aswy, 8Trwy barch ac amarch, trwy anghlod a chlod: megis twyllwyr, ac er hynny yn eirwir; 9Megis anadnabyddus, ac #Pen 4:2 er hynny yn adnabyddus; #Pen 4:10, 11megis yn meirw, ac wele, byw ydym; #Salm 118:18megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd; 10Megis wedi ein tristáu, ond yn wastad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond eto yn meddiannu pob peth. 11Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid, #Pen 7:3ein calon ni a ehangwyd. 12Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr #Pen 12:15cyfyngwyd arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain. 13Ond am yr un tâl, (#1 Cor 4:14yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant,) ehanger chwithau hefyd. 14#Deut 7:2; 1 Cor 5:9Na ieuer chwi yn anghymharus gyda’r rhai di‐gred; canys #1 Sam 5:2, 3; 1 Bren 18:21; 1 Cor 10:21; Eff 5:11pa gyfeillach sydd #6:14 Gr. i gyfiawnderrhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder? a pha gymundeb #6:14 Gr. i oleunirhwng goleuni a thywyllwch? 15A pha gysondeb sydd rhwng Crist a Belial? neu pa ran sydd i gredadun gydag anghredadun? 16A pha gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod? canys #1 Cor 3:16; Heb 3:6teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, #Lef 26:12; Esec 37:26, &cMi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi. 17#Esa 52:11; Dat 18:4Oherwydd paham deuwch allan o’u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch â dim aflan; ac mi a’ch derbyniaf chwi, 18#Jer 31:1, 9; Dat 21:7Ac a fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.
Valgt i Øjeblikket:
2 Corinthiaid 6: BWM1955C
Markering
Kopiér
Sammenlign
Del
Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society