2 Corinthiaid 7
7
A.D. 60. —
1 Y mae efe ym mhellach yn eu hannog i burdeb buchedd; 2 ac i ddwyn y cyfryw ewyllys da tuag ato ef, ag yr oedd yntau yn ei ddwyn tuag atynt hwy: 3 a rhag iddynt hwy feddwl ei fod ef yn amau hynny, y mae yn dangos pa gysur a gymerodd efe yn ei flinderau, pan fynegodd Titus y tristwch duwiol a weithiasai ei epistol cyntaf ef ynddynt 13 a’u caredigrwydd hwynt, a’u hufudd‐dod tuag at Titus, megis y bostiasai efe o’r blaen amdanynt hwy.
1Am hynny #Ioan 3:3gan fod gennym yr addewidion hyn, anwylyd, ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw. 2Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; #Act 20:33; Pen 12:17nid ysbeiliasom neb. 3Nid i’ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys #Pen 6:11, 12mi a ddywedais o’r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi. 4Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o’ch plegid chwi: #Phil 2:17; Col 1:24yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder. 5Canys #Pen 2:13wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: #Deut 32:25oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau. 6Eithr #Pen 1:4Duw, yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a’n diddanodd ni wrth #Edrych pen 2:13ddyfodiad Titus. 7Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi, eich sêl tuag ataf fi; fel y llawenheais i yn fwy. 8Canys er i mi eich tristáu chwi mewn llythyr, nid yw edifar gennyf, #Pen 2:4er bod yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristáu o’r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond dros amser. 9Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristáu chwi, ond am eich tristáu i edifeirwch: canys tristáu a wnaethoch #7:9 yn ôl Duwyn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni. 10Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth #7:10 diedifarni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau. 11Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi #7:11 yn ôl Duwyn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn. 12Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o’i blegid ef a wnaethai’r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw. 13Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll. 14Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni’m cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni, yr hwn a fu wrth Titus. 15Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd‐dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef. 16Am hynny llawen wyf, #Pen 2:9; Phil 2:12; 2 Thess 3:4; Philem 1:8, 21am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.
Valgt i Øjeblikket:
2 Corinthiaid 7: BWM1955C
Markering
Kopiér
Sammenlign
Del
Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society