2 Corinthiaid 5

5
A.D. 60. —
1 Ei fod ef mewn sicr obaith o’r gogoniant tragwyddol, 9 a disgwyl amdano, ac am y farn gyffredinol, yn ymegnïo i gadw cydwybod dda; 12 nid er mwyn ymffrostio yn hynny, 14 eithr megis un wedi derbyn bywyd oddi wrth Grist, yn ceisio byw fel creadur newydd i Grist yn unig, 18 a chymodi eraill â Duw yng Nghrist, trwy weinidogaeth y cymod.
1Canys ni a wyddom, os #Job 4:19; Pen 4:7; 2 Pedr 1:13, 14ein daearol dŷ o’r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. 2Canys am hynny #Rhuf 8:23yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â’n tŷ sydd o’r nef: 3Os hefyd wedi #Dat 3:18; 16:15ein gwisgo, nid yn noethion y’n ceir. 4Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog: #5:4 oherwydd nadyn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosg, ond #1 Cor 15:53, 54ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd. 5#Esa 29:23; Eff 2:10A’r hwn a’n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd #Rhuf 8:23; Pen 1:22; Eff 1:14; 4:30a roddodd i ni #5:5 wystlernes yr Ysbryd. 6Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd: 7Canys #Rhuf 8:24, 25; 1 Cor 13:12; Heb 11:1wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg. 8Ond yr ydym yn hy, ac #Phil 1:23yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r corff, a chartrefu gyda’r Arglwydd. 9Am hynny hefyd yr ydym yn #5:9 ymegnïoymorchestu, pa un bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn #5:9 rhyngu bodd yn dda iddo efgymeradwy ganddo ef. 10#Rhuf 14:10Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist; #Rhuf 2:6; Gal 6:7; Eff 6:8; Col 3:24, 25; Dat 22:12fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg. 11A ni gan hynny yn gwybod #Job 31:23; Jwdas 23ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion: #Pen 4:2eithr i Dduw y’n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd. 12Canys #Pen 3:1nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achlysur #Pen 1:14gorfoledd o’n plegid ni, fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn #5:12 Gr. yr wyneby golwg, ac nid yn y galon. 13Canys #Pen 11:1, 16, 17; 12:6, 11pa un bynnag ai amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym; ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym. 14Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni, gan farnu ohonom hyn; #Rhuf 5:15os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb: 15Ac efe a fu farw dros bawb, #Rhuf 6:11, 12; Gal 2:20; 1 Thess 5:10; 1 Pedr 4:2fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i’r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd. 16#Mat 12:50; Ioan 15:14; Gal 5:6Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd: ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach. 17Gan hynny od oes neb #Rhuf 8:9; Gal 6:15yng Nghrist, #5:17 bydded yn y mae efe yn greadur newydd: #Esa 43:18, 19; 65:17; Eff 2:15; Dat 21:5yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd. 18A phob peth sydd o Dduw, #Rhuf 5:10; Eff 2:16; Col 1:20; 1 Ioan 2:2; 4:10yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymod; 19Sef, bod #Rhuf 3:24, 25Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod. 20Am hynny yr ydym ni #Job 33:23; Mal 2:7; Pen 3:6; Eff 6:20yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi â Duw. 21Canys yr hwn nid adnabu bechod, #Esa 53:6, 9, 12; Gal 3:13; 1 Pedr 2:22, 24; 1 Ioan 3:5a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y’n gwnelid ni #Rhuf 1:17yn gyfiawnder Duw ynddo ef.

Valgt i Øjeblikket:

2 Corinthiaid 5: BWM1955C

Markering

Kopiér

Sammenlign

Del

None

Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind