2 Corinthiaid 12

12
A.D. 60. —
1 Er gallu ohono ef orfoleddu yn ei ddatguddiadau rhyfeddol, er mwyn gosod allan ei apostoliaeth, 9 eto mae yn well ganddo orfoleddu yn ei wendid: 11 gan fwrw bai arnynt hwy am ei yrru ef i wag‐fostio fel hyn. 14 Mae yn addo dyfod atynt hwy drachefn er hynny trwy dadol garedigrwydd, 20 er ei fod yn ofni y caiff yno lawer o ddrwgweithredwyr, ac annhrefn cyffredinol.
1Ymffrostio yn ddiau nid yw fuddiol i mi: canys myfi a ddeuaf at weledigaethau a datguddiedigaethau’r Arglwydd. 2Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg, (pa un ai yn y corff, ni wn; ai allan o’r corff, ni wn i: Duw a ŵyr;) y cyfryw un a #Act 22:17. A.D. 46. yn Lystra, Act 14:6gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef. 3Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn, (pa un ai yn y corff, ai allan o’r corff ni wn i: Duw a ŵyr;) 4Ei gipio ef i fyny i baradwys, ac iddo glywed geiriau anhraethadwy, y rhai nid yw #12:4 bosiblgyfreithlon i ddyn eu hadrodd. 5Am y cyfryw un yr ymffrostiaf; #Pen 11:30eithr amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid. 6Canys #Pen 10:8; 11:16os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddaf ffôl; canys mi a ddywedaf y gwir: eithr yr wyf yn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennyf. 7Ac fel na’m tra‐dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi #Edrych Esec 28:24; Gal 4:14swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i’m cernodio, fel na’m tra‐dyrchefid. 8#Edrych Deut 3:23–27Am y peth hwn mi a atolygais i’r Arglwydd deirgwaith, ar fod iddo ymadael â mi. 9Ac efe a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Crist ynof fi. 10Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid, mewn amarch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn. 11Mi a euthum yn #Pen 11:1ffôl wrth ymffrostio; chwychwi a’m #12:11 cymellasochgyrasoch: canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys #Pen 11:5ni bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf, er #1 Cor 4:9; 15:8, 9; Eff 3:8nad ydwyf fi ddim. 12#1 Cor 9:2; Pen 4:2; 6:4; 11:6Arwyddion apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi, mewn pob amynedd, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, a gweithredoedd nerthol. 13Canys beth yw’r hyn y buoch chwi yn ôl amdano, mwy na’r eglwysi eraill, oddieithr am #Pen 11:9na bûm i fy hun ormesol arnoch? maddeuwch i mi hyn o gam. 14#Pen 13:1Wele, y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch; ac ni byddaf ormesol arnoch: canys #Act 20:33nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwychwi: canys ni ddylai’r plant gasglu trysor i’r rhieni, ond y rhieni i’r plant. 15A #1 Thess 2:8myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, #Pen 1:6; Col 1:24; 2 Tim 2:10dros eich eneidiau chwi, er #Pen 6:12, 13fy mod yn eich caru yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach. 16Eithr bid, ni phwysais i arnoch: ond, gan fod yn gyfrwys, mi a’ch deliais chwi trwy ddichell. 17#Pen 7:2A wneuthum i elw ohonoch chwi trwy neb o’r rhai a ddanfonais atoch? 18#Pen 8:6, 16, 18, 22Mi a ddeisyfais ar Titus, a chydag ef mi a anfonais frawd. A elwodd Titus ddim arnoch? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau? 19#Pen 5:12Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? #Rhuf 9:1gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru; a phob peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi. 20Canys ofni yr wyf, rhag, pan ddelwyf, na’ch caffwyf yn gyfryw rai ag a fynnwn, #1 Cor 4:21; Pen 10:2; 13:2, 10a’m cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech: rhag bod cynhennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau, #12:20 absennaugoganau, hustyngau, ymchwyddiadau, anghydfyddiaethau: 21Rhag pan ddelwyf drachefn, fod i’m Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a’r godineb, a’r anlladrwydd a wnaethant.

Valgt i Øjeblikket:

2 Corinthiaid 12: BWM1955C

Markering

Kopiér

Sammenlign

Del

None

Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind