2 Corinthiaid 13
13
A.D. 60. —
1 Y mae yn bygwth pechaduriaid diedifeiriol â thoster a gallu ei apostoliaeth. 5 A chan eu cynghori hwynt i brofi eu ffydd, 7 ac i ddiwygio eu beiau cyn ei ddyfod ef, 11 y mae yn diweddu ei epistol, trwy eu hannog hwy yn gyffredinol, a gweddïo.
1 #
Pen 12:14
Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch. #Deut 17:6; 19:15; Heb 10:28Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair. 2#Pen 10:2Rhagddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai #Pen 12:21a bechasant eisoes, ac at y lleill i gyd, os deuaf drachefn, #Pen 1:23nad arbedaf: 3Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist, #Mat 10:20yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi. 4#Phil 2:7, 8; 1 Pedr 3:18Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto #Rhuf 6:4byw ydyw trwy nerth Duw: canys #Pen 10:3, 4ninnau hefyd ydym weiniaid #13:4 gydag efynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi. 5#1 Cor 11:28Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy? 6Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy. 7Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er #Pen 6:9bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy. 8Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd. 9Canys llawen ydym #1 Cor 4:10; Pen 11:30; 12:5, 9, 10pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi. 10#1 Cor 4:21; Pen 2:3; 10:2; 12:20, 21Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, #Pen 10:8yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr. 11Bellach, frodyr, byddwch #13:11 iachwych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, #Rhuf 12:16; 1 Cor 1:10; 1 Pedr 3:8syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw’r cariad a’r heddwch a fydd gyda chwi. 12#Rhuf 16:16; 1 Cor 16:20; 1 Thess 5:26; 1 Pedr 5:14Anerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae’r holl saint yn eich annerch chwi. 13Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fyddo gyda chwi oll. Amen.
Yr ail at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi ym Macedonia, gyda Thitus a Luc.
Valgt i Øjeblikket:
2 Corinthiaid 13: BWM1955C
Markering
Kopiér
Sammenlign
Del
Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society