2 Corinthiaid 11

11
A.D. 60. —
1 O’i eiddigedd dros y Corinthiaid, y rhai oedd yn dangos eu bod yn gwneuthur mwy o gyfrif o’r gau‐apostolion nag ohono ef, y mae yn gorfod, yn erbyn ei ewyllys, ei ganmol ei hun, 5 trwy ei gystadlu ei hun â’r apostolion pennaf, 7 a’i fod yn pregethu yr efengyl yn rhad ac yn ddigost iddynt hwy: 13 gan ddangos nad oedd efe ddim gwaeth na’r gweithredwyr twyllodrus hynny mewn un rhagorfraint o’r ddeddf, 23 a’i fod yn rhagori arnynt yng ngwasanaeth Crist, ac ym mhob math ar ddioddefiadau o achos ei weinidogaeth.
1O na chyd‐ddygech â myfi ychydig yn #Ad. 16; Pen 5:13 fy ffolineb; eithr hefyd #11:1 yr ydych yn cyd‐ddwyncyd‐ddygwch â myfi. 2Canys #Gal 4:17, 18eiddigus wyf trosoch ag eiddigedd duwiol: canys mi a’ch #11:2 Gr. cymhwysaisdyweddïais chwi i un gŵr, #Col 1:28i’ch #11:2 cyflwynorhoddi chwi #Lef 21:13 megis morwyn bur i Grist. 3Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd #Gen 3:4; Ioan 8:44y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist. 4Canys yn wir os ydyw’r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch, neu #Gal 1:7, 8efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, teg y cyd‐ddygech #11:4 â mi ag ef. 5Canys yr ydwyf yn meddwl #1 Cor 15:10; Pen 12:11; Gal 2:6na bûm i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf. 6Ac os ydwyf hefyd #1 Cor 1:17; 2:1, 13yn anghyfarwydd ar ymadrodd, eto nid wyf felly #Eff 3:4mewn gwybodaeth; eithr #Pen 4:2; 5:11; 12:12yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob dim. 7A wneuthum i #1 Cor 9:6, 12; Pen 10:1fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y dyrchefid chwi, oblegid pregethu ohonof i chwi efengyl Duw yn rhad? 8Eglwysi eraill a ysbeiliais, gan gymryd cyflog ganddynt hwy, i’ch gwasanaethu chwi. 9A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi, ac arnaf eisiau, #Pen 12:13; 1 Thess 2:9; 2 Thess 3:8, 9ni ormesais ar neb: canys fy eisiau i a gyflawnodd #Phil 4:10, 15y brodyr a ddaethant o Facedonia: ac ym mhob dim y’m cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac mi a ymgadwaf. 10#Rhuf 9:1Fel y mae gwirionedd Crist ynof, #1 Cor 9:15ni argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn yng ngwledydd Achaia. 11Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a’i gŵyr. 12Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd; #1 Cor 9:12fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y ceir hwynt megis ninnau hefyd. 13Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn apostolion i Grist. 14Ac nid rhyfedd: canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni. 15Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder; #Phil 3:19y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd. 16#Pen 12:6Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffôl: os amgen, eto #11:16 Neu, goddefwchderbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig. 17Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, #1 Cor 7:6, 12nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus. 18#Phil 3:3, 4Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd. 19Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol. 20Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i’ch caethiwo, os bydd un i’ch llwyr fwyta, os bydd un yn cymryd gennych, os bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb. 21Am amarch yr ydwyf yn dywedyd, #Pen 10:10megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hy, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd,) hy wyf finnau hefyd. 22Ai Hebreaid ydynt hwy? #Act 22:3; Rhuf 11:1; Phil 3:5felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau: ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau. 23Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl,) #1 Cor 15:10mwy wyf fi; #Act 9:16; 21:11; Pen 6:4mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, #1 Cor 15:31; Pen 1:10 4:11mewn marwolaethau yn fynych. 24Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais #Deut 25:3ddeugain gwialennod ond un. 25Tair gwaith #Act 16:22y’m curwyd â gwiail; #Act 14:19unwaith y’m llabyddiwyd; teirgwaith #Act 27:41y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bûm yn y dyfnfor; 26Mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon llifddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ymhlith brodyr gau: 27Mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn annwyd a noethni. 28Heblaw’r pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, #Edrych Act 20:18, &cy gofal dros yr holl eglwysi. 29#1 Cor 8:13; 9:22Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi? 30Os rhaid ymffrostio, #Pen 12:5mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m gwendid. 31#Gal 1:20Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd. 32#Act 9:24Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i: 33A thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd #11:33 dros y murar hyd y mur, ac y dihengais o’i ddwylo ef.

Valgt i Øjeblikket:

2 Corinthiaid 11: BWM1955C

Markering

Kopiér

Sammenlign

Del

None

Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind