2 Corinthiaid 1

1
A.D. 60. —
3 Y mae yr apostol yn eu cysuro hwy yn erbyn trallod, trwy y diddanwch a’r ymwared a roesai Duw iddo ef, megis yn ei holl gyfyngderau, 8 felly yn enwedig yn ei berygl diweddar yn Asia: 12 a chan gymryd tystiolaeth ei gydwybod ei hun, a’r eiddynt hwythau, am ei ddidwyll ddull yn pregethu anghyfnewidiol wirionedd yr efengyl, 15 y mae yn ei esgusodi ei hun nas daethai atynt; gan iddo wneuthur hynny nid o ysgafnder meddwl, eithr o’i dynerwch tuag atynt hwy.
1Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Timotheus, at eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, gyda’r holl seintiau y rhai sydd yn holl Achaia: 2#Eff 1:2; Phil 1:2; Col 1:2Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3#Eff 1:3; 1 Pedr 1:3Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch; 4Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu’r rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy’r diddanwch â’r hwn y’n diddenir ni ein hunain gan Dduw. 5Oblegid fel #Act 9:4; Pen 4:10; Col 1:24y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau. 6A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys, #Pen 4:15er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny. 7Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o’r diddanwch. 8Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am #Act 19:23; 1 Cor 15:32ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwchben ein gallu, hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd. 9Eithr ni a gawsom ynom ein hunain #1:9 atebfarn angau, #Jer 17:5, 7fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi’r meirw: 10Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau, ac sydd yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw: 11A chwithau hefyd #Rhuf 15:30; Phil 1:19; Philem 22yn cydweithio drosom mewn gweddi, fel, #Pen 4:15am y rhoddiad a rodded i ni oherwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer drosom. 12Canys ein gorfoledd ni yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, #1 Cor 2:4, 13nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy ras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tuag atoch chwi. 13Canys nid ydym yn ysgrifennu amgen bethau atoch nag yr ydych yn eu darllen, neu yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd; 14Megis y cydnabuoch ni o ran, #Pen 5:12mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel #Phil 2:16; 4:1; 1 Thess 2:19, 20chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu. 15Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod atoch o’r blaen, fel y caffech #Rhuf 1:11ail ras; 16A myned heb eich llaw chwi i Facedonia, a #1 Cor 16:5dyfod drachefn o Facedonia atoch, a chael fy hebrwng gennych i Jwdea. 17Gan hynny, pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i ysgafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi, ie, ie a nage, nage? 18Eithr ffyddlon yw Duw, a’n #1:18 pregethiadhymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie, a nage. 19Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef gennyf fi, a Silfanus, a Thimotheus, nid ydoedd ie, a nage, eithr ynddo ef ie ydoedd. 20Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ie, ac ynddo ef amen, er gogoniant i Dduw trwom ni. 21A’r hwn sydd yn ein cadarnhau ni gyda chwi yng Nghrist, ac #1 Ioan 2:20, 27a’n heneiniodd ni, yw Duw: 22Yr hwn hefyd #Eff 4:30; 2 Tim 2:19; Dat 2:17a’n seliodd, ac #Pen 5:5a roes #1:22 wystlernes yr Ysbryd yn ein calonnau. 23Ac #Pen 11:31yr wyf fi yn galw Duw yn dyst ar fy enaid, #1 Cor 4:21; Pen 2:3; 12:20; 13:2, 10mai er eich arbed chwi na ddeuthum eto i Gorinth. 24Nid am #1 Cor 3:5; 1 Pedr 5:3ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd‐weithwyr i’ch llawenydd: oblegid #Rhuf 11:20trwy ffydd yr ydych yn sefyll.

Valgt i Øjeblikket:

2 Corinthiaid 1: BWM1955C

Markering

Kopiér

Sammenlign

Del

None

Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind