1 Corinthiaid 16
16
A.D. 59. —
1 Y mae yn eu hannog i borthi angen y brodyr yn Jerwsalem: 10 yn canmol Timotheus; 13 ac ar ôl rhybuddion caredig, 16 yn diweddu ei epistol ag amryw anerchion.
1Hefyd am #Act 11:29; 24:17; Rhuf 15:26; 2 Cor 8:4; 9:1, 2, 12y gasgl i’r saint; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau. 2#Act 20:7; Dat 1:10Y dydd cyntaf o’r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi. 3A #2 Cor 8:6, 19phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich #16:3 haelioni.rhodd i Jerwsalem. 4Ac #16:4 Neu, os bydd addas.os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyda mi. 5Eithr mi a ddeuaf atoch, #Act 19:21; 2 Cor 1:16gwedi yr elwyf trwy Facedonia; (canys trwy Facedonia yr wyf yn myned.) 6Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi, neu y gaeafaf hefyd, fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf. 7Canys nid oes i’m bryd eich gweled yn awr ar fy hynt; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi, #Act 18:21; Pen 4:19; Iago 4:15os cenhada’r Arglwydd. 8Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn. 9Canys #Act 14:27; 2 Cor 2:12; Col 4:3agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer. 10Ac #Act 19:22; Pen 4:17os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddi‐ofn gyda chwi: canys #Rhuf 16:21; Phil 2:20, 22; 1 Thess 3:2gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau. 11#1 Tim 4:12Am hynny na ddiystyred neb ef: ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo ataf fi: canys yr wyf fi yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr. 12Ac am y brawd Apolos, mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr: eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas. 13Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch. 14Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad. 15Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Steffanas, mai #Rhuf 16:5blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint,) 16#Heb 13:17Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i’r cyfryw, ac i bob un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio. 17Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys #Phil 2:30; Philem 13eich diffyg chwi hwy a’i cyflawnasant; 18Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i, a’r eiddoch chwithau: #1 Thess 5:12; Phil 2:29cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai. 19Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, #Rhuf 16:5gyda’r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn #16:19 Neu, fawr.fynych. 20Y mae’r brodyr oll yn eich annerch. #Rhuf 16:16Annerchwch eich gilydd â chusan sancteiddol. 21#Col 4:18; 2 Thess 3:17Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. 22Od oes neb nid yw yn caru’r Arglwydd Iesu Grist, bydded Anathema, Maranatha. 23#Rhuf 16:20; Phil 4:23Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi. 24Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen.
Yr epistol cyntaf at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi, gyda Steffanas, a Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimotheus.
Valgt i Øjeblikket:
1 Corinthiaid 16: BWM1955C
Markering
Kopiér
Sammenlign
Del
Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society