2 Corinthiaid 2

2
A.D. 60. —
1 Wedi iddo ddangos yr achos na ddaethai efe atynt, 6 y mae yn erchi iddynt faddau i’r dyn a esgymunasid, a’i gysuro: 10 megis y maddeuasai yntau iddo, ar ei wir edifeirwch: 12 gan ddangos hefyd yr achos paham yr aethai efe o Troas i Macedonia; 14 a’r llwyddiant a’r ffyniant a roesai Duw i’w bregethu ef ym mhob lle.
1Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch. 2Oblegid os myfi a’ch tristâf chwi, pwy yw’r hwn a’m llawenha i, ond yr hwn a dristawyd gennyf fi? 3Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, #Pen 12:21na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; #Pen 8:22; Gal 5:10gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll. 4Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y’ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi. 5Ac #1 Cor 5:1os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll. 6Digon i’r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd. 7Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a’i ddiddanu; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch. 8Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef. 9Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth. 10I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i’r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, #2:10 ym mhersonyng ngolwg Crist; 11Fel na’n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef. 12Eithr #Act 16:8gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist, ac #1 Cor 16:9wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd, 13Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais #Edrych pen 7:6Titus fy mrawd: eithr gan ganu’n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia. 14Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau #Can 1:3arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle. 15Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, #1 Cor 1:18yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig: 16#Luc 2:34; Ioan 9:39; 1 Pedr 2:7, 8I’r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a #Pen 3:5, 6phwy sydd ddigonol i’r pethau hyn? 17Canys nid ydym ni, megis llawer, #Pen 4:2; 1 Thess 2:3, 5yn #2:17 llygru gair Duwgwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru #2:17 o Gristyng Nghrist.

Valgt i Øjeblikket:

2 Corinthiaid 2: BWM1955C

Markering

Kopiér

Sammenlign

Del

None

Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind