1 Corinthiaid 15
15
A.D. 59. —
3 Wrth atgyfodiad Crist, 12 y mae efe yn profi y bydd rhaid i ninnau atgyfodi, yn erbyn y rhai a wadant atgyfodiad y cnawd. 21 Ffrwyth 35 a dull yr atgyfodiad; 51 ac fel y newidir y rhai a gaffer yn fyw ar y dydd diwethaf.
1Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, yr efengyl a bregethais i chwi, #Gal 1:11yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll; 2#Rhuf 1:16Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr #Gal 3:4darfod i chwi gredu yn ofer. 3Canys #Pen 11:23mi a draddodais i chwi ar y cyntaf #Gal 1:12yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, #Salm 22:15 &c; Esa 53:5, 6 &c; Dan 9:26; Luc 24:26; 1 Pedr 1:11; 2:24yn ôl yr ysgrythurau; 4A’i gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, #Salm 16:10; Esa 53:10; Hos 6:2yn ôl yr ysgrythurau; 5#Luc 24:34A’i weled ef gan Ceffas, yna #Marc 16:14; Luc 24:36; Ioan 20:19, 26; Act 10:41gan y deuddeg. 6Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant. 7Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna #Luc 24:50gan yr holl apostolion. 8#Act 9:4; 22:14, 18; Pen 9:1Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig. 9Canys #Eff 3:8myfi yw’r lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf addas i’m galw yn apostol, am #Act 9:1; Gal 1:13; 1 Tim 1:13i mi erlid eglwys Dduw. 10Eithr #Eff 3:7, 8trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a’i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond #2 Cor 11:23; 12:11mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac #Mat 10:20; 2 Cor 3:5; Phil 2:13nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi. 11Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt‐hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi. 12Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw? 13Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith: 14Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau. 15Fe a’n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw; canys #Act 2:24, 32ni a dystiasom am Dduw, ddarfod iddo gyfodi Crist: yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir. 16Canys os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith. 17Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau. 18Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist. 19Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o’r holl ddynion ydym ni. 20Eithr yn awr #1 Pedr 1:3Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed #Act 26:23; Ad. 23; Col 1:18; Dat 1:5yn flaenffrwyth y rhai a hunasant. 21Canys #Rhuf 5:12, 17gan fod marwolaeth trwy ddyn, #Ioan 11:25trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw. 22Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb. 23Eithr #Ad. 20; 1 Thess 4:15, 16, 17pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef. 24Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a’r Tad: wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth. 25Canys rhaid iddo deyrnasu, #Salm 110:1; Act 2:34; Eff 1:22; Heb 1:13; 10:13hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed. 26#2 Tim 1:10; Dat 20:14Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau. 27Canys #Salm 8:6; Mat 28:18; Heb 2:8efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo. 28A phan ddarostynger pob peth iddo, yna #Pen 3:23; 11:3y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir i’r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll. 29Os amgen, beth a wna’r rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? paham ynteu y bedyddir hwy dros y meirw? 30A #Gal 5:11phaham yr ydym ninnau mewn perygl bob awr? 31#Rhuf 8:36; Pen 4:9; 2 Cor 4:10, 11Yr ydwyf beunydd yn marw, #15:31 tyst yw fy ngorfoledd.myn #1 Thess 2:19eich gorfoledd yr hon sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. 32Os #15:32 i lefaru yn oll dull dyn.yn ôl dull dyn #2 Cor 1:8yr ymleddais ag anifeiliaid yn Effesus, pa lesâd sydd i mi, oni chyfodir y meirw? #Esa 22:13; 56:12Bwytawn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym. 33Na thwyller chwi: y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da. 34#Rhuf 13:11; Eff 5:14Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch: canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw: #Pen 6:5er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn. 35Eithr fe a ddywed rhyw un, #Esec 37:3Pa fodd y cyfodir y meirw? ac â pha ryw gorff y deuant? 36O ynfyd, #Ioan 12:24y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw. 37A’r peth yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall. 38Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun. 39Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd: eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i bysgod, ac arall i adar. 40Y mae hefyd gyrff nefol, a chyrff daearol: ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daearol. 41Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall yw gogoniant y sêr: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. 42#Dan 12:3; Mat 13:43Felly hefyd y mae atgyfodiad y meirw. #Phil 3:21; Col 3:4Efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth: 43Efe a heuir mewn amarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorff anianol, ac a gyfodir yn gorff ysbrydol. 44Y mae corff anianol, ac y mae corff ysbrydol. 45Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, #Gen 2:7Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, #Rhuf 5:14 a’r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau. 46Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol. 47Y dyn cyntaf o’r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd #Ioan 3:13, 31o’r nef. 48Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd. 49Ac #Gen 5:3megis y dygasom ddelw y daearol, #Rhuf 8:29; 2 Cor 3:18; 4:11; Phil 3:21; 1 Ioan 3:2ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol. 50Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon #Ioan 3:3, 5cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth. 51Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: #1 Thess 4:15, 16, 17Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar drawiad llygad, wrth yr utgorn diwethaf: 52Canys #Mat 24:31; 1 Thess 4:16yr utgorn a gân, a’r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir. 53Oherwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac #2 Cor 5:4i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. 54A phan ddarffo i’r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifennwyd, #Esa 25:8; Dat 20:14Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth. 55#Hos 13:14O angau, pa le mae dy golyn? O #15:55 Neu, y bedd.uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth? 56Colyn angau yw pechod, a #Rhuf 5:13; 7:5, 13grym pechod yw’r gyfraith. 57Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni #1 Ioan 5:5fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. 58Am hynny, fy mrodyr annwyl, byddwch sicr, a diymod, #15:58 yn ymhelaethu. a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol; #15:58 gan wybod.a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.
Valgt i Øjeblikket:
1 Corinthiaid 15: BWM1955C
Markering
Kopiér
Sammenlign
Del
Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society