1 Corinthiaid 14

14
A.D. 59. —
1 Canmol proffwydoliaeth, 2, 3, 4 a’i osod o flaen llefaru â thafodau, 7 trwy gyffelybrwydd oddi wrth offer cerdd: 12 rhaid yw cyfeirio pob un o’r ddau tuag at adeiladaeth, 22 megis tuag at eu gwir a’u priodol bennod: 26 iawn‐arfer pob un o’r ddau, 27 a’u cam‐arfer. 34 Gwarafun gwragedd i lefaru yn yr eglwys.
1Dilynwch gariad, a #Pen 12:31deisyfwch ddoniau ysbrydol; #Num 11:25, 29ond yn hytrach fel y proffwydoch. 2Canys yr hwn sydd #Act 2:4; 10:46yn llefaru â thafod dieithr, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw; canys nid oes neb yn #14:2 deall.gwrando; er hynny yn yr ysbryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau. 3Eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, a chyngor, a chysur. 4Yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, sydd yn ei adeiladu ei hunan: eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn adeiladu yr eglwys. 5Mi a fynnwn petech chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr; ond yn hytrach broffwydo ohonoch: canys mwy yw’r hwn sydd yn proffwydo, na’r hwn sydd yn llefaru â thafodau; oddieithr iddo ei gyfieithu, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth. 6Ac yr awr hon, frodyr, os deuaf atoch gan lefaru â thafodau, pa lesâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych naill ai trwy #Ad. 26weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy broffwydoliaeth, neu trwy athrawiaeth? 7Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y #14:7 gainc.sain, pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn? 8Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel? 9Felly chwithau, oni roddwch â’r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr. 10Y mae cymaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar. 11Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf farbariad i’r hwn sydd yn llefaru, a’r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad. 12Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau #14:12 ysbrydau.ysbrydol, ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys. 13Oherwydd paham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddïed ar iddo allu cyfieithu. 14Canys os gweddïaf â thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth. 15Beth gan hynny? Mi a weddïaf â’r ysbryd, ac a weddïaf â’r deall hefyd: #Salm 47:7; Eff 5:19; Col 3:16canaf â’r ysbryd, a chanaf â’r deall hefyd. 16Canys os bendithi â’r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle’r #14:16 annysgedig.anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd? 17Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu. 18Yr ydwyf yn diolch i’m Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll: 19Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr. 20O frodyr, #Salm 131:2; Mat 11:25; 18:3; Rhuf 16:19; Eff 4:14na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch #14:20 wŷr.berffaith. 21Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, #Esa 28:11, 12Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni’m gwrandawant felly, medd yr Arglwydd. 22Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i’r rhai sydd yn credu, ond i’r rhai di‐gred: eithr proffwydoliaeth, nid i’r rhai di‐gred, ond i’r rhai sydd yn credu. 23Gan hynny os daw’r eglwys oll ynghyd i’r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi‐gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu? 24Eithr os proffwyda pawb, a dyfod o un di‐gred neu annysgedig i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, a fernir gan bawb: 25Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd #Esa 45:14; Sech 8:23fod Duw yn wir ynoch. 26Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un ohonoch salm, y mae ganddo athrawiaeth, #Ad. 6; Pen 12:8, 9, 10y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatguddiad, y mae ganddo gyfieithiad. Gwneler pob peth er adeiladaeth. 27Os llefara neb â thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch; a chyfieithed un. 28Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; eithr llefared wrtho’i hun, ac wrth Dduw. 29A llefared y proffwydi ddau neu dri, a barned y lleill. 30Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf. 31Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb. 32Ac y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i’r proffwydi. 33Canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangnefedd, #Pen 11:16fel yn holl eglwysi’r saint. 34#1 Tim 2:11, 12Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniatawyd iddynt lefaru; ond #Pen 11:3; Eff 5:22; Col 3:18; 1 Pedr 3:1bod yn ddarostyngedig, megis ag y mae’r #Gen 3:16gyfraith yn dywedyd. 35Ac os mynnant ddysgu dim, ymofynnant â’u gwŷr gartref: oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys. 36Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe? 37#2 Cor 10:7; 1 Ioan 4:6Os ydyw neb yn tybied ei fod yn broffwyd, neu yn ysbrydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, mai gorchmynion yr Arglwydd ydynt. 38Eithr od yw neb heb wybod, bydded heb wybod. 39Am hynny, frodyr, byddwch awyddus i broffwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau dieithr. 40Gwneler pob peth yn weddaidd, ac mewn trefn.

Valgt i Øjeblikket:

1 Corinthiaid 14: BWM1955C

Markering

Kopiér

Sammenlign

Del

None

Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind