Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 4:13 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Rhufeiniaid 4:13 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Roedd Duw wedi addo i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu’r ddaear. Cael perthynas iawn gyda Duw drwy gredu sy’n dod â’r addewid yn wir, dim gwneud beth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.

Rhufeiniaid 4:13 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y mae'r addewid i Abraham, neu i'w ddisgynyddion, y byddai yn etifedd y byd, wedi ei rhoi, nid trwy'r Gyfraith ond trwy'r cyfiawnder a geir trwy ffydd.

Rhufeiniaid 4:13 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Canys nid trwy’r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai efe yn etifedd y byd: eithr trwy gyfiawnder ffydd.