Skip to content
Logo Ap Beibl

Mathew 9:18 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 9:18 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Tra oedd yn dweud hyn, dyma un o’r arweinwyr Iddewig yn dod ato ac yn plygu ar ei liniau o’i flaen. “Mae fy merch fach newydd farw,” meddai, “ond tyrd i roi dy law arni, a daw yn ôl yn fyw.”

Mathew 9:18 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Tra oedd ef yn siarad fel hyn â hwy, dyma ryw lywodraethwr yn dod ato ac ymgrymu iddo a dweud, “Y mae fy merch newydd farw; ond tyrd a rho dy law arni, ac fe fydd fyw.”

Mathew 9:18 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon; eithr tyred, a gosod dy law arni, a byw fydd hi.