Mathew 21:38 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 21:38 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy’n mynd i etifeddu’r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni’r winllan.’
Mathew 21:38 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’
Mathew 21:38 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.