Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Actau 3:2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 3:2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Wrth y fynedfa sy’n cael ei galw ‘Y Fynedfa Hardd’ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd, i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i’r deml.

Actau 3:2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ac yr oedd rhywrai'n dod â dyn oedd yn gloff o'i enedigaeth, ac yn ei osod beunydd wrth borth y deml, yr un a elwid y Porth Prydferth, i erfyn am gardod gan y rhai a fyddai'n mynd i mewn i'r deml.

Actau 3:2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i’r deml.