1
Eshaiah 35:10
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
Ië, gwaredigion IEHOFAH a ddychwelant, Ac a ddeuant i Tsïon â hyfryd gân; A llawenydd tragywyddol ar eu pennau; Hyfrydwch a llawenydd a oddiweddant hwy, Ac ymaith y ffŷ cystudd a galar.
Cymharu
Archwiliwch Eshaiah 35:10
2
Eshaiah 35:3-4
Cadarnhêwch y dwylaw llesg, A’r gliniau gwegiawl, cryfhêwch hwynt; Dywedwch wrth y rhai aflonydd o galon, Ymgryfhêwch, Nac ofnwch; wele eich Duw chwi! Dïal a ddaw, attaliad Duw; Efe a ddaw ac a fydd Iachawdwr i chwi.
Archwiliwch Eshaiah 35:3-4
3
Eshaiah 35:8
A bydd yno brif-ffordd, Ac “Y ffordd sanctaidd,” y gelwir hi; Nid aiff ar hyd-ddi un halogedig; Ond Efe fydd gyda hwynt gan rodio ’r ffordd, A’r ynfydion ni chyfeiliornant ynddi.
Archwiliwch Eshaiah 35:8
4
Eshaiah 35:5
Yna yr agorir llygaid y deillion, A chlustiau ’r byddarion a agorir.
Archwiliwch Eshaiah 35:5
5
Eshaiah 35:6
Yna y llamma ’r 2 cloff 『 1 fel hŷdd』 Ac y llawen-gân tafod y mudan. Canys 『 2 yn yr anialwch』 y 1 tyr dyfroedd allan, Ac afonydd yn y diffaethwch.
Archwiliwch Eshaiah 35:6