1
Eshaiah 30:21
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
A’th glustiau a glywant air o’th ol yn dywedyd, Hon (yw) ’r ffordd, rhodiwch ynddi, Ac na thrôwch i’r llaw ddehau, ac na thrôwch i’r aswy.
Cymharu
Archwiliwch Eshaiah 30:21
2
Eshaiah 30:18
Er hynny y disgwyl IEHOFAH i fod yn raslawn wrthych, Ac er hynny y saif efe o hirbell i dosturio wrthych; Canys Duw cyfiawnder (yw) IEHOFAH, Gwyn eu byd y rhai a ddisgwyliant wrtho.
Archwiliwch Eshaiah 30:18
3
Eshaiah 30:15
Dïau fel hyn y dywed yr Arglwydd IEHOFAH Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorphwys y bydd iachawdwriaeth i chwi, Mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid; Ond ni fynnech.
Archwiliwch Eshaiah 30:15
4
Eshaiah 30:20
Er rhoddi 『 2 o’r Arglwydd』 『 1 i chwi』 fara ing a dwfr gorthrymder, Etto ni orchuddir mwy dy athrawon, Ond bydd dy lygaid yn gweled dy athrawon
Archwiliwch Eshaiah 30:20
5
Eshaiah 30:19
Canys pobl sanctaidd yn Tsïon a drig; Yn Ierwshalem gan wylo y wyli atto Ef; Gan fod yn raslawn y bydd Efe yn raslawn wrthyt ar lef dy waedd, Pan y’i clywo, Efe a’th ettyb.
Archwiliwch Eshaiah 30:19
6
Eshaiah 30:1
Gwae ’r meibion cyndyn, medd IEHOFAH, Am lunio o honynt gyngor ond nid oddi wrthyf Fi, A thywallt diod-offrwm ond nid (â) ’m hyspryd I, Er mwyn chwannegu pechod at bechod
Archwiliwch Eshaiah 30:1