Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Mathew 22:36

Gweinidogaeth Rhagoriaeth
3 Diwrnod
Mae yna lawer o resymau da dros anelu at ragoriaeth yn ein gwaith: Mae rhagoriaeth yn hyrwyddo ein gyrfaoedd, yn rhoi dylanwad i ni, a gall arwain at gyfleoedd i rannu'r efengyl. Ond fel y bydd y cynllun tridiau hwn yn dangos, dylem fynd ar drywydd rhagoriaeth am reswm llawer mwy sylfaenol - oherwydd rhagoriaeth yw'r ffordd orau i ni adlewyrchu cymeriad Duw a charu a gwasanaethu ein cymdogion fel ein hunain trwy ein dewis o waith.

Agwedd
7 Diwrnod
Mae meithrin agwedd gywir ym mhob sefyllfa yn sialens go iawn. Wrth ddarllen darn o'r Beibl bob dydd am saith diwrnod byddwch yn dysgu beth sydd gan yr Ysgrythur i'w ddweud am y pwnc. Darllenwch y darn, holwch eich hun, a gadewch i Dduw siarad bob dydd â chi.

Craig ac Amy Groeschel - From This Day Forward
7 Diwrnod
Gall dy briodas fod yn wych. Bydd dewisiadau heddiw yn pennu sut briodas gei di yfory. Mae'r gweinidog a'r awdur enwog Craig Groeschel a'i wraig, Amy, yn dangos sut mae pum ymrwymiad yn gallu helpu priodas gadarn: Ceisia Dduw, bydd yn deg, cael hwyl, aros yn bur, a dal ati. O hyn ymlaen cei briodas sydd wrth dy fodd.

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
7 Diwrnod
Edrycha ar dy bwrpas fel un o ddilynwyr Iesu: i garu Duw a charu eraill. Dros saith diwrnod, byddwn yn dadbacio themâu addoliad personol, trawsnewid, tosturi, gwasanaeth a chyfiawnder. Mae pob sesiwn yn dechrau gyda gweddi i’th helpu i ganolbwyntio ar thema’r dydd, darn neu ddau o’r ysgrythur, meddwl o safbwynt diwinyddol, a ffyrdd o gymhwyso’r darlleniad ac ymateb iddo. =.