Zechariah 7
7
PEN. VII.—
1A bu yn y bedwaredd flwyddyn i Darius y brenin, y bu gair yr Arglwydd at Zecharïah ar y pedwerydd o’r mis, y nawfed, yn Cislef.#Conun (Rhagfyr). Syr. 2Ac anfonodd Bethel Sharetser,#Sarasar—a anfonasant i dŷ Dduw. Vulg. a’r brenin a’i wŷr a anfonasant i Bethel Sarasar ac Arbeser. LXX. ac anfonodd i Bethel Sharetser a Rabmag, ac anfonodd y brenin a’i fawrion i weddio drosto gerbron yr. Syr. Regem Melec a’i wŷr i ymbil#foddhau wyneb. i ddyhuddo yr. LXX. am wyneb yr Arglwydd 3gan ddywedyd wrth yr offeiriaid y rhai oeddent wrth dŷ Arglwydd y lluoedd;#Hollalluog. LXX. ac wrth y prophwydi, gan ddywedyd: A wylaf fi yn y pumed mis i ymatal#ymgadw, ymneillduo. a raid i mi ymsanteiddio. Vulg. fel y gwnaethum bellach gynifer#flynyddoedd lawer. Vulg. o flynyddoedd.
4,5A bu gair Arglwydd y lluoedd ataf gan ddywedyd: dywed wrth holl bobl y wlad ac wrth yr offeiriaid gan ddywedyd:
Ddarfod ymprydio o honoch a galaru ar y bumed a’r seithfed,
A hyn ddeng mlynedd a thriugain;
Ai i mi yr ymprydiasoch,
I mi,
6A phan fwytaech a phan yfech;
Onid y chwi oeddech yn bwyta,
A chwi oeddech yn yfed.
7Onid hyn#y rhai hyn oedd y. Syr. y geiriau,
Y rhai a gyhoeddodd#lefarodd. LXX. Vulg. yr Arglwydd trwy y proffwydi gynt;
Pan oedd Jerusalem yn aros#yn drigianus. Syr. ac yn esmwyth;#llwyddianus. esmwyth. yn gyfoethog. Vulg.
A’i dinasoedd o’i hamgylch:
A’r deheudir#mynydd-dir. LXX. mynyddoedd. Syr. a’r gwastad-dir#iseldir. yn cael ei gyfaneddu.#a’r deheudir yn gyfanedd a’r gwastad-dir. Hebr.
8A bu gair yr Arglwydd at Zechariah gan ddywedyd; 9Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd gan ddywedyd;
Bernwch farn gywir;
A thrugaredd a thosturi;
Gwnewch bob un i’w frawd.
10A gweddw ac amddifad,
A dieithr a thlawd#a’r rhai a drowyd ataf fi. Syr. na orthrymwch:
A drwg gan un i’w frawd;
Na feddyliwch#a phob un na chofied y drwg a wnaed gan ei. LXX. yn eich calonau.
11A gwrthodasant wrando;
A rhoddasant#gwnaethant. ysgwydd anhydyn:#gefn ynfyd. LXX. wrthnysig. Syr. anufudd.
A’u clustiau a drymasant rhag clywed.
12A’u calonau a wnaethant yn adamant,
Rhag clywed y gyfraith a’r geiriau,
Y rhai a anfonodd Arglwydd y lluoedd trwy ei ysbryd;
Yn llaw y proffwydi gynt:
A bu digofaint mawr oddiwrth Arglwydd y lluoedd.
13A bu#a bydd. LXX. megys y galwodd efe ac na wrandawsant;
Felly y galwent#llefant — ni wrandawaf. LXX. Syr. Vulg. hwy#arnaf, —hwynt. Syr. ac ni wrandawn,
Medd Arglwydd y lluoedd.
14A gwasgarwn hwynt,#a bwriaf hwynt allan. LXX. gwasgaraf hwynt. Syr.
Dros yr holl genedloedd#deyrnasoedd. Vulg. y rhai nis adwaenent#y rhai nid adwaenent. LXX. Vulg. hwynt;
A’r wlad a anghyfaneddwyd#anghyfaneddir. LXX. Syr. ar eu hol hwynt;#ganddynt. Vulg.
Heb a dramwyai ac heb a ddychwelai:#o un yn tram. ac o un yn dych. LXX.
A hwy a osodasant wlad ddymunol#ddewisol. LXX. yn ddiffaethwch.
Právě zvoleno:
Zechariah 7: PBJD
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.