Zechariah 14
14
PEN. XIV.—
1Wele ddydd#ddyddiau. LXX, Vulg. i’r Arglwydd yn dyfod:
A rhenir dy ysbail yn dy ganol.
2A mi a gasglaf yr holl genedloedd i Ierusalem i ryfel;
A chymerir y ddinas,
Ac anrheithir#ysbeilir. y tai;
A’r gwragedd a dreisir:#aflanheir. LXX.
A haner y ddinas a â allan mewn#i. Vulg. yn gaethion. caethiwed;
A gweddill y#fy. LXX. bobl;
Nis torir ymaith o’r ddinas.
3A’r Arglwydd a â allan;
Ac a ryfela â’r cenedloedd hyny:
Megys y dydd y rhyfeloedd efe yn nydd y frwydyr.#dynesiad. Hebr.
4A’i draed a safant yn y dydd hwnw ar fynydd yr Olewydd,
Yr hwn sydd ar gyfer Ierusalem o’r tu dwyrain:
A holltir mynydd yr Olewydd o’i haner tua’r dwyrain#codiad. a thua’r gorllewin,#môr.
Yn ddyffryn#agendor. LXX. yn holltiad. Vulg. mawr iawn:
A haner y mynydd a symud tua’r gogledd,
A haner iddo tua’r deheu.
5A chwi a ffowch i ddyffryn#a hollt fy mynyddoedd a gauir i fyny. LXX. fy#hyny. Vulg. mynyddoedd,
Canys cyrhaedd dyffryn mynyddoedd i Atsal;#Iasod. LXX. lle nesaf. Vulg. y carchar, cyfyngiad. Syr.
A chwi a ffowch#a cheuir ef i fyny fel y cauwyd ef yn nyddiau y ddaeargryn. LXX. fel y ffoisoch rhag y ddaeargryn;
Yn nyddiau Uzziah brenin Iudah:
A daw yr Arglwydd fy Nuw;
Yr holl rai santaidd#a font gyda. gyda thi.#gydag ef. LXX, Syr., Vulg.
6A bydd yn y dydd hwnw:
Na bydd goleuni;
Rhai gwychion a#na bydd goleuni. ac oerfel ac ia a fydd am un dydd. LXX, Vat. goleuni, ac oerfel, ac ia. LXX, Alex. ond oerfel ac ia. Syr., Vulg. ymataliant.#lonyddant. y rhai gogoneddus a ymgiliant Dr. Chambers.
7A bydd un diwrnod,
Hwnw a adwaenir gan yr Arglwydd,
Nid dydd ac nid nos:
A bydd at bryd hwyr y bydd goleuni.
8A bydd yn y dydd hwnw,
Yr ant allan ddyfroedd bywiol o Ierusalem;
Eu haner hwynt tua môr y dwyrain;#y môr blaen. Hebr.
A’u haner hwynt tua môr y gorllewin:#y môr ol. Hebr.
Yn yr hâf ac yn y gauaf#gwanwyn. LXX. haf a gauaf. Syr. y bydd.#y bydd felly. LXX. byddant. Vulg.
9A bydd yr Arglwydd yn frenin ar yr holl dir:
Yn y dydd hwnw,
Yr Arglwydd yn unig fydd,#un Arg. fydd, LXX, Syr.
A’i enw yn unig.
10Troir yr holl dir megys#bydd y diffaethwch o fryn Remmon hyd ddeheu. Vulg. gan gylchu yr holl wlad a’r anialwch o Gabe hyd Rhemon. LXX. efe a gylcha yr. Syr. gwastadedd o Geba i Rimon;
Ar ddeheu Ierusalem:
A hi a gyfyd#a Ramah a erys yn. LXX. a fydd uchel. Syr. ac a erys yn eu lle,
O borth Beniamin hyd le y porth cyntaf,
Hyd borth y conglau;
A o#hyd. LXX. dwr Chananeel,
Hyd gafnau gwin y brenin.
11A thrigir#trigant. Hebr. ynddi;
A melldith ni bydd mwyach;
A Ierusalem a erys mewn diogelwch.#yn hyderus.
12A hyn fydd y pla;#cwymp neu difrod. LXX.
A’r hwn y tery yr Arglwydd yr holl bobloedd;
Y rhai a wersyllant#a filwriant. LXX. yn erbyn Ierusalem:
Cnawd un#ei gnawd. Hebr. cnawd pob un. Vulg. a dderfydd,#a guria.
Ac yntau yn sefyll ar ei draed;
A’i lygaid a ddarfyddant#a lifant allan. LXX. yn eu tyllau,
A’u#a’i dafod. Hebr. tafod a dderfydd yn eu genau.
13A bydd yn y dydd hwnw;
Y bydd dychryn#syndod, amhwylledd. LXX. terfysg. Vulg. mawr oddiwrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt:
Ac ymaflant un yn llaw ei gymydog.
A’i law a gyfyd#a blethir ynghyd wrth law. ymleddir law yn llaw. Vulg. ymlyn wrth. Syr. yn erbyn llaw ei gymydog.
14A Iudah hefyd a ryfela yn#yn erbyn Ier. Vulg. Ierusalem:
A chesglir#ac a gasgl, LXX. golud yr holl genedloedd o amgylch,
Yn aur ac arian a dillad lawer iawn.
15Ac felly#a hwn fydd difrod y meirch. LXX, y bydd pla y march, y mul, y camel, a’r asyn,
A phob anifail;
Yr hwn a fydd yn y gwersylloedd hyn: Fel y pla hwn.
16A bydd#cynifer. LXX. i bawb ag a weddillwyd o’r holl genedloedd;
Y rhai a ddaethant yn erbyn Ierusalem;
I fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn,
I ymgrymu i’r Brenin Arglwydd y lluoedd;
Ac i gadw gwyl y pebyll.
17A bydd ar y sawl nad elo i fyny o deuluoedd y wlad i Ierusalem;
I ymgrymu#addoli y. i’r Brenin Arglwydd y lluoedd:
Na bydd y gwlaw#y rhai hyn hefyd a chwanegir at y rhai hyny. LXX. arnynt.
18Ac os teulu yr Aipht nid â i fyny ac ni ddaw,
Ni bydd arnynt hwy:#arnynt hwy hefyd y bydd y difrod â’r hwn. LXX. y pla â’r hwn. Syr.
Y pla fydd a’r hwn y tery yr Arglwydd y cenedloedd;
Y rhai nid ant i fyny i gadw gwyl y pebyll.
19Hyn fydd pechod yr Aipht:
A phechod yr holl genedloedd;
Y rhai nid ant i fyny;
I gadw gwyl y pebyll.
20Yn y dydd hwnw,
Y bydd ar#yr hyn sydd ar ffrwyn y march yn santaidd i’r. LXX. Vulg. ar ffrwyn y. Syr. glychau y march:
SANTEIDDRWYDD i’r ARGLWYDD:
A bydd y crochanau yn nhŷ yr Arglwydd,
Fel y cawgiau gerbron yr allor.
21A bydd pob crochan yn Ierusalem ac yn Iudah,
Yn SANTEIDDRWYDD i ARGLWYDD y lluoedd
A’r holl aberthwyr a ddeuant;
Ac a gymerant o honynt ac a ferwant ynddynt:
Ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhŷ Arglwydd y lluoedd,
Yn y dydd hwnw.
Právě zvoleno:
Zechariah 14: PBJD
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.