Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Zechariah 13

13
PEN. XIII.—
1Yn y dydd hwnw
Y bydd ffynon#pob lle. LXX. wedi ei hagor;
I dŷ Dafydd ac i breswylwyr Ierusalem:
At bechod ac aflendid.#at ymsymudiad ac ymwahaniad. LXX. at olchiad pechadur a’r fisolog. Vulg. at daenelliad a phurad. Syr.
2A bydd yn y dydd hwnw,
Medd Arglwydd y lluoedd,#Sabaoth. LXX.
Y toraf ymaith enwau yr eilunod o’r tir;
Ac nis cofir hwynt mwyach.
A’r proffwydi#gau broffwydi. LXX, Syr. hefyd a’r yspryd aflan#ysbrydion afl. Syr. a yraf allan o’r tir.
3A bydd,
Pan broffwydo gwr mwyach,
Y dywaid ei dad a’i fam ag a’i cenedlasant ef wrtho,
Ni chei fyw,#ni byddi byw.
Canys celwydd a lefaraist yn enw yr Arglwydd:
A’i dad a’i fam y rhai a’i cenedlasant a’i gwanant#rhwymant. LXX., Syr. ef pan broffwydo.
4A bydd yn y dydd hwnw.
Y cywilyddia y proffwydi,
Bob un am ei weledigaeth pan broffwydo.
Ac ni wisgant fantell o rawn#a gwisgant groen blewog am y dywedasant gelwydd. LXX. crwyn rhawnog. Syr. i ddywedyd celwydd.
5Ac efe a ddywed,
Nid proffwyd ydwyf fi;
Un#dyn. Hebr. yu llafurio daear ydwyf fi;
Canys dyn a’m perchenogodd#Adda fu fy esampl o’m. Vulg. a’m gwnaeth yn egniol, selog o’m. Syr. o’m hieuenctyd.
6A dywedir#dywedaf. LXX. dywedant. Syr. wrtho.
Beth#paham. yw y clwyfau hyn yn#yn nghanol dy. Vulg. dy ddwylaw:
Ac efe a ddywed,
Y rhai y’m clwyfwyd a hwynt#am y clwyfwyd fi yn. yn nhŷ fy ngharwyr.#fy anwylyd. LXX, Alex. yn fy nhŷ anwyl. LXX. Vat.
7Deffro, gleddyf,#bicell. Vulg. yn erbyn fy mugail,#fy mugeiliaid. LXX, Vat.
Ac yn erbyn gwr o gyfaill#fy ninesydd. LXX. yn gydymaith neu yn glynu wrthyf fi. Vulg. fy nghariad. Syr. i mi;
Medd Arglwydd y lluoedd:
Taro y bugail,#tarewch y bugeiliaid. LXX. Vat.
A’r praidd#defaid y fugeiliaeth. LXX. Alex. a wasgerir;#a phliciwch ymaith y. LXX. Vat.
A mi a droaf fy llaw ar#yn erbyn. at yr. Vulg. y rhai bychain.#y blaenoriaid. Syr.
8A bydd#byddant. Vulg. trwy yr holl wlad,
Medd yr Arglwydd;
Y torir ymaith, y trenga#y gwasgerir ac y pallant. y derfydd ac y bydd marw. Syr. dwy ran ynddi, torir hwy ymaith. Hebr. ei dwy ran hi a ddinystrir. LXX. dwy ran ynddi:
A’r drydedd a adewir ynddi.
9A dygaf y drydedd drwy dân;
A choethaf#taniaf. LXX. llosgaf. Vulg. toddaf. Syr. hwynt fel coethi yr arian:
A phrofaf hwynt fel profi yr aur:
Efe a eilw ar fy enw,
A minau a’i gwrandawaf ef;
Dywedais#dywedaf. LXX, Syr., fy mobl yw efe;
Ac efe a ddywed, Yr Arglwydd fy Nuw.

Právě zvoleno:

Zechariah 13: PBJD

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas