Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Zechariah 12

12
PEN. XII.—
1Baich#gweledigaeth. Syr. gair—a fydd yn feichus. gair yr Arglwydd am#ar, yn erbyn. Israel:
Medd yr Arglwydd,
Sydd yn estyn#estynodd, sylfaenodd, lluniodd Syr. wybrenau,
Ac yn sylfaenu daear;
Ac yn llunio ysbryd dyn ynddo.
2Wele fi yn gosod Jerusalem yn gwpan meddwol#pendro, rhagddor crynedig. LXX. arddrws, neu gappan drws. Vulg. yn borth dychrynllyd. Syr. i’r holl bobloedd o amgylch:
A hefyd am#ar. Judah y bydd,#yn Judah y bydd gwarchae ar Jer. LXX. ond Judah hefyd fydd yn y. Vulg. hefyd ar Judah y bydd cyfyngder gyda Jer. Syr.
Yn y gwarchae ar Jerusalem.
3A bydd yn y dydd hwnw,
Y gosodaf Ierusalem yn faen trwm#mathredig gan yr. LXX. i’w sathru. Syr. i’r holl bobloedd;
Pawb ag a’i codant#ag a’i mathrant. LXX, Syr. gan gael eu dryllio a ddryllir:#gan wawdio y gwawdia. LXX.
A chesglir yn ei herbyn hi;
Holl genedloedd#deyrnasoedd yr. Vulg. y ddaear.
4Yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd,
Y tarawaf bob march â dychryn,
A’i farchog ag ynfydrwydd:#syndod. Syr.
Ac ar dŷ Iudah yr agoraf fy llygaid;
A holl feirch y bobloedd;
A darawaf â dallineb.
5A phenogion#milwriaid. LXX. Iudah a ddywedant yn eu calon:
Nerth i mi yw#cawn i ni ein hunain breswylwyr. LXX. nerthed pres. Ier. fi. Vulg. cryfach na ni yr aeth pres. Syr. preswylwyr Ierusalem;
Trwy Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.
6Yn y dydd hwnw y gwnaf benogion Iudah,
Fel padellaid#pentewyn. LXX. gloyn. Syr. o dân mewn coed,#gwellt. LXX. gwair. Vulg. briwwydd. Syr.
Ac fel ffagl dân mewn ysgub;
Ac ysant ar ddeheu ac ar aswy,
Yr holl bobloedd o amgylch:
A Ierusalem a drig#a breswylir. Vulg. eto yn ei lle,#wrthi ei hun. LXX.
Yn Ierusalem.
7A’r Arglwydd a achub bebyll Iudah yn gyntaf;#fel gynt, o’r dechreu LXX, Syr., Vulg.
Fel nad ymfawrhao gogoniant#na fawrhaer ymffrost tŷ D. a chodiad pres. —yn erbyn. LXX. nad ymffrostio tŷ D. yn fawrygus. Vulg. tŷ Dafydd,
A gogoniant preswylydd Ierusalem ar#yn fwy na, yn uwch na. Iudah.
8Yn y dydd hwnw,
Yr ymddiffyn#cysgoda, gorchuddia. Syr. yr Arglwydd breswylydd#breswylwyr. LXX, Syr., Vulg. Ierusalem;
A bydd yr egwan#a dalgwympo. Vulg. yn eu plith y dydd hwnw fel Dafydd:
A thŷ Dafydd fel duwiau;#tŷ Dduw. LXX. eiddo Duw. Vulg. fel Duw. Syr.
Fel angel yr Arglwydd o’u blaen#yn eu golwg hwynt. Vulg. hwynt.
9A bydd yn y dydd hwnw:
Y ceisiaf ddyfetha yr holl genedloedd;
Y sydd yn dyfod yn erbyn Ierusalem.
10A thywalltaf ar dŷ Dafydd ac ar breswylydd Ierusalem,
Ysbryd ymbiliau a gweddïau;#ysbryd gras a thosturi. LXX. cariad a thosturiaethau. Syr.
Ac edrychant ataf fi yr hwn a wanasant:#yn lle y dawnsio a wnaethant. LXX.
A galarant am dano.
Fel galar am yr unig-anedig;#un anwyl. LXX.
A bydd chwerw#a bydd chwerwedd fel chwerwedd am. a hwy a ddryllir fel y rhai a ddryllir am. Syr. wylo am dano,
Fel chwerw wylo#fel ydys yn arfer galaru ar farwolaeth. Vulg. am y cyntaf-anedig.
11Yn y dydd hwnw y bydd mawr y galar yn Ierusalem;
Megys galar Hadadrimmon#am blanfa pomgranadau mewn maes a dorwyd ymaith. LXX. Adadremmon yn maes Magedon. Vulg. g. mab Amon. Syr. yn nyffryn Megidon.
12A’r wlad a alara:
Yn deuluoedd, yn deuluoedd wrthynt eu hunain,
Teulu tŷ Dafydd wrtho ei hunan,
A’u gwragedd wrthynt eu hunain;
Teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan;
A’u gwragedd wrthynt eu hunain.
13Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan;
A’u gwragedd wrthynt eu hunain:
Teulu y Shimeiad#Simeon. LXX. tŷ Simeon. Syr. Semei. Vulg. wrtho ei hunan;
A’u gwragedd wrthynt eu hunain.
14Yr holl deuluoedd gweddill;
Yn deuluoedd, yn deuluoedd wrthynt eu hunain:
A’u gwragedd wrthynt ei hunain.

Právě zvoleno:

Zechariah 12: PBJD

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas