Malaci 2
2
PEN. II.—
1Ac yn awr,
Atoch chwi yr offeiriaid y mae y gorchymyn hwn.
2Oni wrandewch ac onid ystyriwch,
I roddi gogoniant i’m henw I,
Medd Arglwydd y lluoedd;
Yna yr anfonaf yn eich plith y felldith;#angeu. Vulg.
Ac a felldithiaf eich bendithion:#bendith. LXX.
A mi a’u melldithiais#a’i melldithiaf. LXX. a’u melld. Vulg. hefyd;
Am#a gwasgaraf eich bendith ac ni bydd yn eich mysg, am nad. LXX. nad oeddech yn ystyried.
3Wele fi yn atal i chwi yr hâd;#ysgwyddog. LXX. had y ddaear. Syr. a fwriaf atoch yr ysgwyddog. Vulg.
A thaenais#a thaenaf. LXX. Vulg. dom ar eich wynebau;
Tom#a thom ar eich. Syr. eich gwyliau:
A chymerir#a chymer chwi. Hebr. cymeraf. LXX, Syr. ac efe a’ch cymer gydag ef. Vulg. chwi iddo.
4A chewch wybod ddanfon o honof atoch;
Y gorchymyn hwn;
I fod yn gyfamod#i fod cyf. i mi a Lefi. fel y byddai fy nghyf. Vulg. i mi â Lefi;#Lefiaid. LXX.
Medd Arglwydd y lluoedd.
5Fy nghyfamod ag ef oedd fywyd a hawddfyd;#bywyd a hawdd. oeddent fy fy nghyf. by. —a heddwch. LXX, Vulg.
A rhoddais hwynt iddo am#yn. am yr ofn a'r hwn y’m hofnodd. LXX. mynwn iddo fy ofni a pharchu o hono fy enw. Dathe. ofn,
Ac efe a’m hofnodd I:
A rhag#a cher bron fy. Syr. fy enw yr arswydodd efe.
6Cyfraith gwirionedd fu yn ei enau;
A thwyll ni chafwyd yn ei wefusau ef:
Mewn perffeithrwydd#heddwch. mewn heddwch gan fyned yn uniawn yr aeth gyda. LXX. ac uniondeb y rhodiodd gyda mi;
A llawerodd a drodd efe oddiwrth anwiredd.
7Canys gwefusau offeiriad a gadwant#ydynt yn dyhidlo gwyb. Syr. wybodaeth;
A chyfraith a geisiant o’i enau ef:
O herwydd cenad Arglwydd y lluoedd yw efe.
8A chwithau a wyrasoch allan o’r ffordd;
Parasoch i laweroedd dramgwyddo#wanhauasoch. LXX. bechu yn erbyn y. Dathe. yn y gyfraith;
Torasoch gyfamod y Lefiad;#Lefi. LXX.
Medd Arglwydd y lluoedd.
9A minau#o herwydd yr hyn minnau. Vulg. hefyd a’ch gwnaethum chwithau yn ddirmygedig ac isel#sathredig. Syr. gan yr holl bobl:
Yn gymaint ag nas cadwasoch fy ffyrdd I,
A derbyn o honoch wynebau yn y gyfraith.
10Onid un Tad sydd i ni oll;
Onid un Duw a’n creodd ni:
Paham y gwnawn yn anffyddlon un a’i frawd;
I halogi cyfamod ein tadau.
11Twyllodrus#gadawyd. LXX. troseddodd. Vulg. fu Judah;
A ffieidd-dra wnaed yn Israel ac yn Jerusalem:
Canys halogodd Judah gysegr#santaidd bethau. LXX. santeiddiad. Vulg. santeiddrwydd. yr Arglwydd yr hwn a hoffa;
Ac a briododd ferch#ac a wasanaethodd dduwiau. LXX. ac a garodd ac a wasanaethodd dduwiau. Syr. duw dieithr.
12Yr Arglwydd a dyr ymaith y#i wr. Hebr. gwr a wna hyn yn wyliedydd ac atebydd;#nes hefyd y darostynger ef allan o bebyll ac o’r rhai a ddygant offr. LXX. athraw a dysgybl. Vulg. a’i fab a mab ei fab. Syr. a’i holl deulu er offrymu o hono. Dathe.
O bebyll Jacob:
Ac yn offrymydd offrwm;#ac ni bydd iddo a offrymo. Syr.
I Arglwydd y lluoedd.
13A hyn eilwaith#a’r pethau hyn y rhai a gasheais a wnaethoch. LXX. a wnaech;
Cuddio allor#dy yr. Syr. yr Arglwydd â dagrau;
Wylofain a chwynfan;#gan flinderau. LXX.
Fel nad edrycho#nid yw yn troi at eich. Syr. felly fel nad edrychaf. Vulg. mwyach ar yr offrwm;
A chymeryd o’ch llaw yr hyn a fyddai foddhaol.#ewyllys da. offrwm gwirfodd. Syr.
14A chwi a ddywedwch am beth:
Am fod yr Arglwydd yn dyst rhyngot ti a gwraig dy ieuenctyd,
Yr hon y buost#a adewaist. LXX. ti anffyddlon iddi;
A hithau yn gydymaith iti,
Ac yn wraig dy gyfamod.
15* * *
* * * *
* *
* * *
# onid da y gwnaeth? ac y mae gweddill ei ysbryd ef: a dywedasoch, beth arall ond had a gais Duw. LXX. onid un gwr a fu, a gweddill lle iddo; un oedd yn ceisio had gan Dd. Syr. A gwyliwch ar eich ysbryd,
Ac â gwraig dy#ei. Syr. ieuenctyd na wna#na wnaed. Hebr. na wnaer. na ad. LXX. na ddirmyga. Vulg. na thwylled. Syr. yn dwyllodrus.
16Canys yr wyf yn cashau#cashaodd. os cashei hi gollwng hi ymaith. LXX, Vulg. rhoi ymaith,
Medd Arglwydd Dduw Israel,#medd yr Arg. Hollalluog, D. Israel, ac na chuddied anwiredd yn ei wisg. Syr.
A chuddio trais#ac annuwioldeb a orchuddia dy feddyliau. LXX. anghyfiawnder a guddia ei wisg ef. Vulg. ar wisg un;
Medd Arglwydd y lluoedd:
A gwyliwch ar eich ysbryd,
Ac na fyddwch dwyllodrus.#ac na adewch hwy y rhai a gyffrowch yr Arg. LXX. na ddirmygwch. Vulg.
17Blinasoch yr Arglwydd â’ch geiriau;
A dywedasoch,
Yn mha beth y blinasom Ef:
Trwy ddywedyd o honoch,
Pob gwneuthurwr drygioni sydd dda yn ngolwg yr Arglwydd,
Ac ynddynt hwy yr ymhyfryda#iddynt hwy y mae efe yn foddlon, a’r cyfryw a’i boddhant ef Vulg. Efe;
Neu#os nad. Syr. pa le y mae Duw y farn.#yr uniondeb. LXX.
Právě zvoleno:
Malaci 2: PBJD
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.