Eseia 46:10-11

Eseia 46:10-11 BNET

Dw i’n dweud o’r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto. Dw i’n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd; dw i’n cyflawni popeth dw i’n ei fwriadu.’ Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o’r dwyrain, yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i. Pan dw i’n dweud rhywbeth, mae’n siŵr o ddigwydd; fi sydd wedi’i gynllunio, a bydda i’n siŵr o’i wneud!