Salmau 5

5
SALM 5
Duw biau barnu
Bishopthorpe MC
1-3O gwrando ’ngeiriau, Arglwydd da,
Ystyria ’nghwyn, a chlyw
Fy nghri am gymorth gennyt ti,
Fy Mrenin i a’m Duw.
4-5aDisgwyliaf am y bore bach,
Pan glywi di fy llais.
Ni saif y drwg yn d’wyddfod byth,
Ni hoffi neb trahaus.
5b-6Difethi di’r celwyddgwn oll,
Casei bob drwg a wnaed.
Ffieiddia Duw’r twyllodrus rai,
A’r sawl sy’n tywallt gwaed.
7-8Ond gan mor fawr dy gariad, dof
I’th deml i gadw’r oed;
Yn dy gyfiawnder arwain fi,
Gwna union ffordd i’m troed.
9-10Nid oes ar eiriau’r drwg ddim coel,
Mae’u llwnc fel beddrod du;
Boed aflwydd iddynt, cosba hwy
Am eu pechodau lu.
11-12Ond llawenhaed a chaned pawb
Sy’n caru d’enw drud.
Bydd tarian ffafr dy fendith dros
Y cyfiawn yn y byd.

S'ha seleccionat:

Salmau 5: SCN

Subratllat

Comparteix

Compara

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió