Salmau 23

23
SALM 23
Yr Arglwydd yw fy mugail
Dominus Regit Me MS
1-2Yr Arglwydd yw fy mugail i,
Ac ni bydd eisiau arnaf.
Mewn porfa fras gorffwyso a gaf;
Ger dyfroedd braf gorweddaf.
3Mae yn f’adfywio yn ddi-frys
A’m tywys yn garuaidd.
Hyd ffyrdd cyfiawnder mae’n fy nwyn,
Er mwyn ei enw sanctaidd.
4Mewn dyffryn tywyll du ni chaf
Nac anaf byth na dolur;
A thi o’m blaen, fe rydd dy ffon
A’th wialen dirion gysur.
5Arlwyi fwrdd o’m blaen, a’m llu
Gelynion i yn gwylio,
Eneinio ’mhen ag olew glân.
Mae ’nghwpan yn gorlifo.
6Daioni a thrugaredd fydd
O’m hôl bob dydd o’m bywyd;
Ar hyd fy oes mi fyddaf byw
Yn nhŷ fy Nuw mewn gwynfyd.

S'ha seleccionat:

Salmau 23: SCN

Subratllat

Comparteix

Compara

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió