Salmau 13

13
SALM 13
Am ba hyd, Arglwydd?
Eudoxia 65.65
1Am ba hyd, O Arglwydd
Yr anghofi fi,
Ac y troi dy wyneb
Oddi wrth fy nghri?
2Am ba hyd y dygaf
Loes a gofid prudd,
Ac y’m trecha’r gelyn
Fel y gwawria dydd?
3Edrych arnaf, Arglwydd.
Gwared fi, fy Nuw.
Dyro, rhag fy marw,
Olau i’m llygaid gwyw.
4Rhag i’m gelyn frolio,
Wrth i’m llygaid gau,
“Fe’i gorchfygais i ef,”
Ac ymlawenhau.
5Ond yn dy achubiaeth
Ffyddlon a di-ffael
Rhof fy ffydd, a chanaf
Am dy fod mor hael.

S'ha seleccionat:

Salmau 13: SCN

Subratllat

Comparteix

Compara

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió