Ioan 6

6
Iesu'n bwydo pum mil o ddinion
1Wedy hyn âth Iesu bant dros Môr Galilea, neu Llyn Tiberias; 2we crowde mowr in i ddilyn e, achos wen nhwy'n gweld i seins wedd e'n u neud wrth wella dinion we ddim in iawn. 3Âth Iesu lan mini a ishte fan 'ny 'da i ddisgiblion. 4We'r Pasg, Gŵyl ir Iddewon, in dod o fon hir. 5Pan ddrichodd Iesu lan a gweld crowd mowr in dwâd ato fe, gwedodd e wrth Philip, 'Ble allwn ni bernu bara i rhein gâl bita?' 6Gwedodd e 'na i brofi fe; achos wedd e i unan in gwbod in barod beth wedd e'n mynd i neu. 7Atebo Philip e, 'Byse gwerth dou gant o bune o arian dim ond in ddigon o bob sun gal crwstyn.’ 8Gwedodd un o'i ddisgiblion, Andreas, brawd Simon Pedr, wrtho, 9'Ma crwt bach fan 'yn gida pum cwgen farlish a dau bisgodyn; one ewn nhwy ddim in bell iawn i shwt gwmint!' 10Gwedo Iesu, 'Halwch i bob un i ishte lawr.’ We lot o borfa in i lle 'ny. So ishteddodd i dinion lawr; we rhiw bum mil onyn nhwy i gyd. 11Wedyn cwmrodd Iesu'r cwgeni bach we 'da'r crwt, a wedi diolch i Dduw fe ranodd e nhwy rhynt i dinion fel wen nhwy'n ishte, a nâth e'r un peth 'da'r pisgod 'fyd. 12Gâs bob un gwmint a wen nhwy moyn. Pan we pob un wedi câl digon gwedodd e wrth i ddisgiblion, 'Casglwch y crwste sy dros ben, fel bo ddim byd in câl i golli.’ 13Wedi casglu ffeindod nhw bo douddeg basgeded o fara dros ben 'da nhwy o'r pum cwgen farlish we 'da nhwy i fita in i lle cinta. 14Gwedo'r dinion welodd e'n neud hyn, 'Sdim dowt taw hwn yw'r Proffwd sy'n dod miwn i'r byd.’ 15Ond we Iesu in gwbod bo nhwy'n golygu dod a mynd ag ei i neud e'n frenin, so âth e bant i ben i mini ar ben i unan.
Iesu'n cered ar i dŵr
16Wrth iddi ddachre tewillu dâth i ddisgiblion lawr i lan i llyn. 17Ethon nhwy miwn i gwch a croeshi i Capernaum. Wedd i'n dewill in barod, ond we Iesu ddim wedi dwâd atyn nhwy 'to; 18a we'r dŵr in dachre mynd in rwff, achos we gwynt cryf in hwthu. 19Ar ôl iddyn nhw rwyfo 'mlân ryw dair peder milltir welon nwy Iesu in cered ar i dŵr a'n dod at i cwch; a we ofon arnyn nhwy. 20Gwedodd e wrthyn nhwy, 'Fi yw e; peidwch câl ofon.’ 21Wen nhwy ishe i gwmrid e miwn i'r cwch, ond tima'r cwch in dod i'r lan lle wen nhwy ishe mynd.
22Tranoth silwo'r crowd we wedi aros ar ir ochor arall i'r llyn taw dim ond un cwch we wedi bod 'na, a bod Iesu heb fynd in i'r cwch gyda'i ddisgiblion, ond bod i ddisgiblion wedi mynd bant. 23We cichod erill o Tiberias wedi dod in agos i'r lle wen nhwy wedi bita'r bara wedi i'r Arglwidd roi jolch. 24So, pan welo'r crowde bod ddim Iesu na'i ddisgiblion fan 'ny, ethon nhwy u hunen miwn i'r cichod a dwâd i Capernaum, in whilio am Iesu.
Iesu yw Bara'r Bowid
25Pan ffeindon nhwy e ar ochor arall i llyn, gwedon nhwy wrtho fe, 'Rabbi, pryd ddes ti 'ma?' 26Atebo Iesu nhwy, 'Dwi'n gweud i gwir in blaen wrthoch chi nawr, ych chi'n whilio amdana i, ddim achos ich bo chi wedi gweld i pethe dwi wedi neud, ond achos bo chi wedi bita llond ich bolie o'r cwge. 27Peidwch gweithio am fwyd sy'n pwdru; gweithwch am fwyd sy'n para a sy'n dod â bowid am byth, i bwyd bydd Crwt i Dyn in rhoi ichi; achos iddo fe ma Duw i Tad wedi rhoi comands.’ 28Gwedon nhwy wrtho, 'Beth yn ni fod i neud, fel bo ni'n neud gwaith Duw?' 29Atebo Iesu nhwy, 'Co beth yw gwaith Duw, credu in ir un mae e wedi'i hala.’ 30So wedon nhwy wrtho fe, 'Beth wit ti'n i neud 'te, fel gallwn ni weld a credu indo ti?' Beth wit ti'n neud? 31Bitodd in tade ni fanna in i lle diffeth, jwst fel gâs i i reito, “Rhoiodd e fara o'r nefodd iddon nhwy i fita.”' 32Gwedo Iesu wrthon nhwy, 'Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi: ddim bod Moses wedi rhoi bara o'r nefodd i chi' ond ma'n Dad i in rhoi i bara iawn o'r nefodd. 33Achos bara Duw yw'r un sy'n dod lawr o'r nefodd a sy'n rhoi bowid i'r byd.’
34Gwedon nhwy wrtho, 'Mishtir, rho'r bara 'ma i ni trw'r amser.’ 35Gwedo Iesu wrthon nhwy, 'Fi yw bara'r bowid; bydd neb sy'n dod ata i in llwgu 'to, a bydd neb sy'n credu inda i in sichedu 'to. 36Ond wedes i 'na wrthoch chi, sach bo chi wedi'ng ngweld i, ond wedyn weth senoch chi'n credu. 37Bydd pob un ma'r Tad wedi'u rhoi i fi in dwâd ata i, a fydda i byth in troi bant unriw un sy'n dod ata i, 38achos sena i wedi dod lawr o'r nefodd i neud fel dwi moyn, ond i neud beth mae'r un nâth in hala i moyn ifi neud. 39A 'co beth ma'r un nâth in hala i moyn, bo fi ddim in colli hyd 'n ôd un o'r rhei mae e wedi rhoi i fi, ond bo fi'n u codi nhwy lan ar i Dwarnod Diwetha. 40Achos 'co beth ma'n Dad i moyn, fod pob un sy'n gweld y Mab ac in credu indo fe in câl bowid am byth; a bydda i'n codi fe lan ar i Dwarnod diwetha.’
41Nawr we'r Iddewon in clebran amdano fe achos i fod e wedi gweud, 'Fi yw'r bara sy wedi dishgyn o'r nefodd.” 42Gwedon nhwy, 'Nage Iesu yw hwn, mab Joseff — senon ni'n nabod i dad a'i fam? Shwt mae e'n gweud nawr, 'Dwi wedi dishgyn o'r nefodd”?' 43Atebo Iesu nhwy, 'Peidwch clebran rhynt ich gily. 44Sneb in galler dod ata i os nad yw'r Tad nâth in hala i in u tinnu nhwy ata i; a bidda i'n godi fe lan ar i Dwarnod dwetha. 45Mae e wedi câl i reito in i Proffwydi, “A bydd Duw in i disgu nhwy i gyd.” Ma pob un sy wedi cliwed i Tad a wedi disgu 'dag e in dod ata i. 46Sena i'n gweud bo neb wedi gweld i Tad. 47Ond wi'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, ma unrhiw un sy credu inda i â bowid am byth gidag e. 48Fi yw bara'r bowid. 49Bitodd ich tade chi i manna mas in i lle diffeth, ond marwon nhwy. 50'Co'r bara sy'n dod i lawr o'r nefodd, gallwch chi fita hwn a peido marw. 51Fi yw'r bara byw sy'n dod lawr o'r nefodd. Os bydd unrhiw un in bita'r bara hwn bydd e'n byw am byth; a'r bara sda fi i chi yw in gnawd i; dwi'n ei roi e dros fowid y byd.’
52We'r Iddewon in pledo 'da'i gily, 'Shwt gall i boi 'ma roi'i gnawd i ni i fita?' 53Gwedo Iesu wrthon nhwy. 'Dwi'n gweud y gwir wrthoch chi nawr, os na newch chi fita cnawd Mab i Crwt ac ifed i wâd e, sdim bowid indoch chi o gwbwl. 54Ma bowid am byth gida pwy binnag sy'n bita in gnawd i a'n hifed in wâd i, a bidda i'n u codi nhwy lan ar i Dwarnod dwetha. 55Achos ma'n gnawd i in fwyd iawn, a ma'n wâd i'n beth i ifed iawn. 56Ma pwy binnag sy'n bita in gnawd i a'n hifed in wâd i in aros inda i a dwi'n arnos indyn nhwy. 57I Tad byw nâth in hala i, a wi'n byw achos i Tad, so ma unrhywun sy'n in fita i in byw o'n achos i. 58Co'r bara ddâth i lawr o'r nefodd; seno fe'n debyg i'r bara bitodd in tade ni, achos stopodd ddim mo'r bara 'na nhwy i farw; ma pwy binnag sy'n bita'r bara 'ma in mynd i fyw am byth.’ 59Gwedodd e'r pethe 'ma pan wedd e'n disgu in sinagog Capernaum.
Lot o ddisgiblion in gadel Iesu
60Pan gliwo lot o'i ddisgiblion e'n gweud hyn, mynte nhwy, “Ma 'na beth caled i'w weud. Pwy sy'n galler grondo ar hyn?” 61We Iesu in gwbod indo'i unan bo'i ddisgiblion e'n sharad fel 'yn, a gwedodd e wrthyn nhwy, “Odych chi'n sinnu at beth dwi'n gweud? 62Beth wedyn 'te os byse Crwt i Dyn in mynd lan i ble wedd e o'r blân? 63Ir isbryd sy'n rhoi bowid; seno'r cnawd in lot o help. Mae'r geire wi wedi gweu 'tho chi in isbryd ac in fowid. 64Ond wedyn weth ma rhei 'noch chi sydd ddim in folo credu.” Achos we Iesu in gwbod o'r start pwy we'r rhei wenyn nhwy'n mynd i gredu, a phwy we'r rhei fyse'n i roi e bant. 65A gwedodd e, “Co pam wedes i wrtho chi bo neb in galler dod ata i os na we'r Tad wedi'u rhoi nhwy i fi in i dachre.”
66O'r amser 'ma troiodd lot o'i ddisgiblion e rownd a mynd a'i adel e. 67Wedyn wedodd Iesu wrth i Douddeg, “Odych chi ishe mynd a'ng ngadel i 'fyd?” 68Atebo Simon Pedr e, “Mishtir, at bwy gallwn ni fynd? 'Da ti ma geirie sy'n dod â bowid am byth; 69yn ni wedi dod i gredu a gwbod taw ti yw un Sbeshal Duw.” 70Atebo Iesu nhwy, “Fi nâth ich dewish chi, i Douddeg, ondife? Ond ma un o chi'n ddiawl.” 71Wedd e'n sharad am Jwdas, mab Simon Iscariot; achos wedd e, sach bo fe'n un o'r Douddeg, in mynd i roi ei bant.

በአሁኑ ጊዜ የተመረጠው፡

Ioan 6: DAFIS

ማድመቅ

ኮፒ

አወዳድር

ያጋሩ

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ