Ioan 19
19
Iesu'n câl i hala i'r grwes
1Wedyn cwmrodd Pilat Iesu a'i whipo fe, 2a lethoodd i sowldwrs goron mas o ddrain a'i rhoi 'ddi ar i ben, wedyn roion nhwy glogyn piws amdano. 3Wedyn wen nhwy cadw dod lan ato fe a gweud, “Henffych, Brenin ir Iddewon!” a'i fwrw fe ar i wmed.
4Âth Pilat mas shwrne 'to a gweu 'th ir Iddewon, “Drichwch, dw i'n dod ag e mas i chi fel bo chi'n gwbod sena i'n câl dim byd indo fe i ateb.” 5So âth Iesu mas in gwisho'r goron ddrain a'r clogyn piws. Gwedo Pilat wrthyn nhwy, “Dirchwch, co'r dyn.” 6Pan welo'r penffeiradon a'r polisis e, gweiddon nhwy, “Croeshoela fe! Croeshoela fe!” Gwedo Pilat wrthon nhwy, “Cerwch chi ag e ich hunen a'i groeshoelo fe; achos sena i'n galler gweld dim byd arno fe i ateb.” 7Atebo'r Iesu fe, “Ma cifreth 'da ni, a ma'r gifreth 'na'n gweud dile fe farw, achos bo fe wedi gweud pethe wedd in meddwl i fod e'n neud i hunan in Grwt i Dduw.” 8Pan gliwo Pilat hynny gâs e ofon, 9a âth e nôl miwn i'r pencadlys, a gweu 'th Iesu, “O ble wit ti'n dod?” Nâth Iesu ddim i ateb. 10Gwedo Pilat wrtho, “Wit ti'n pallu sharad 'da fi? Senot ti'n stando bo hawl 'da fi i di adel di'n rhydd a hawl i di groeshoelo di?” 11Atebo Iesu, “Bise dim hawl 'da ti o gwbwl se fe heb gâl i roi i ti o lan. Achos 'ny ma'r un nâth in roi i lan i ti in fwy euog byth.” 12Achos hyn treiodd Pilat i gâl e'n rhydd. Gweiddodd ir Iddewon, “Os nei di adel hwn in rhydd senot ti'n ffrind i Gesar. Ma unrhiwun sy'n treial bod in frenin in erbyn Cesar.”
13Pan gliwo Pilat i geire 'ma dâth mas â Iesu tu fas, a ishte lawr ar i stôl-farnu in i lle man nhwy'n galw in “I Pafin”, neu in iaith ir Iddewon, “Gabbatha”. 14Wedd i'n ddwarnod cyn Cwrdde Mowr Pasg, a wedd i'n rhyw ddouddeg ar gloch. Gwedodd e wrth ir Iddewon, “Drichwch, co'ch Brenin chi!” 15Gweiddon nhwy, “Lladdwch e, lladdwch e, croeshoelwch e!” Gwedo Pilat wrthyn nhwy, “Wdw i fod groeshoelo'ch Brenin chi?” Atebo'r penffeiradon, “Sdim brenin 'da ni ond Cesar.” 16Wedyn nâth e i roi e lan iddyn nhwy fel gallen nhwy i groeshoelo fe.
Iesu'n câl i hoelo ar i grwes
Cwmron nhwy Iesu, 17a âth e mas in cario'r grwes i unan i'r man sy'n câl i alw in “Lle'r Benglog”, neu in iaith ir Iddewon, 'Golgotha'. 18Fan'ny nethon nhwy i groeshoelo fe, a dou arall 'dag e, un ar bob ochor iddo a Iesu in i canol. 19Reitodd Pilat bapur a'i roi e ar i grwes. We'r notis in darllen, “IESU O NASARETH, BRENIN IR IDDEWON.” 20Darllennodd lot o'r Iddewon i notis 'ma, achos we'r lle gâs Iesu i groeshoelo in agos i'r ddinas, a fe gâs i notis i reito in iaith ir Iddewon, Lladin a Groeg. 21So wedo'r penffeiradon wrth Pilat, “Paid reito “Brenin ir Iddewon”, ond “Gwedodd e, Fi yw ‘Brenin ir Iddewon’.” 22Atebo Pilat, “Dw i 'di reito beth dw i 'di reito.”
23Pan we'r sowldwrs wedi croeshoelo Iesu, ethon nhwy â'i ddillad a'u rhannu nhwy in bedwar shâr, shâr i bob sowldwr. Ethon nhw â'r tiwnic 'fyd; ond wedd i heb sêm, in un pishyn o'r top i'r gwaelod. 24So wedon-nhwy wrth i gily, “Newn ni ddim o'i rhico hi, gadwch inni dowlu deis i weld pwy geith hi.” Digwyddodd hyn er mwyn neud i'r Isgrithur ddwâd in wir,
“Rhannon nhwy in ddillad i rhynt i gilyd
a towlu deis am in bilyn.”
A 'na beth nâth i sowldwrs. 25Nawr, we mam Iesu, whâr i fam, Mair gwraig Clopas, a Mair o Magdala in sefyll ar bwys i grwes. 26Gwelo Iesu i fam a'r disgibl wedd e'n i garu in sefyll ar i phwys hi, a gwedodd e wrthi, “Mam, drichwch, 'co'ch mab chi.” 27Wedyn wedodd e wrth i disgibl, “Dricha, 'co di fam di.” O'r amser 'na mlân cwmrodd i disgibl hi miwn i'w getre.
28We Iesu in gwbod bo popeth wedi câl i neud nawr. I neud i'r Isgrithur ddwâd in wir, gwedodd e, “Ma siched arna i.” 29We cwpan 'da gwin sur indi wedi câl i roi fan 'ny. Rhoion nhwy spwnj in llawn gwin sur ar ben coesen hissop a'i roi lan i'w ben e. 30Cwmrodd e'r gwin sur a gweud, “Ma popeth wedi câl i neud.” Wedyn nâth ei bligu'i ben a rhoi'r isbryd lan.
31I dwarnod cyn dy' Sabbath wedd i. So holo'r Iddewon Pilat dorri coese'r dinion we wedi câl u croeshoelo, a bo'r cyrff yn câl u cwmrid bant. We hyn fel 'na bo'r cyrff in aros ar i croese ar ddy Sabbath, a we'r Sabbath 'ny in ddwarnod mowr. 32So dâth i sowldwrs a torri coese'r dyn cinta a'r llall we wedi câl i groeshoelo 'dag e. 33Wedyn ddethon nhwy ato fe, a pan welon nhwy bo fe'n farw in barod, nethon nhwy ddim torri i goese, 34ond fe nâth un o'r sowldwrs hwpo spiyr miwn i'w ochor e, a ar unweth dâth gwâd a dŵr mas. 35Co beth wedo rhiwun welodd i peth in digwydd, câs hyn i weud fel bo chi 'fyd in credu, a ma beth mae e'n weud in wir. Ma 'na un sy'n gwbod i fod e'n gweud i gwir. 36Digwiddodd i pethe 'ma fel bo'r Isgrithur in dod in wir, “Ceith ddim un o'i esgyrn e u torri.” 37Shwrne 'to, mae'r Isgrithur in gweud, “Biddan nhwy'n drych ar ir un nethon nhwy i wanu.”
Claddu Iesu
38Wedyn âth Joseff o Arimathaea, we'n ddisgibl i Iesu ond wedd e ddim in gweud wrth neb arall achos bo ofon ir Iddewon arnon fe, a gofyn i Pilat a alle fe gwmrid corff Iesu bant; a wedo Pilat galle-fe. So dâth e a cwmrid i corff bant. 39Dâth Nicodemus 'fyd, i dyn we wedi dod ato fe tro cinta pan wedd i'n dewill, in cario cimisgedd o myrr a alos in pwyso rhiw ffiti pown. 40So ethon nhwy â corff Iesu a rhoi llieinie amdano gida'r sbeisys, fel ma Iddewon in arfer claddu. 41We gardd lle gâs e i groeshoelo, a in ir ardd 'ny we twm newy lle we neb wedi'i roi i orwe 'to. 42Fan 'ny roion nhwy Iesu i orwe, achos wedd i'n ddwarnod cyn dy' Sabbath ir Iddewon a we'r twm in agos.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies