Ioan 20
20
I twm in wag
1In ginnar in bore dydd cinta'r wsnoth, pan wedd i'n dewill o hyd, dâth Mair o Magadal at i twm a gweld bo'r garreg wedi câl i simud bant. 2So redodd i at Simon Pedr a at i disgibl arall we Iesu in i garu, a gweu 'tho nhwy, “Man nhwy wedi mynd â'r Arglwidd mas o'r twm, a senon ni'n gwbod ble man nhwy wedi'i roi i orwe.” 3So âth Pedr a'r disgibl arall mas am i twm i weld. 4We'r ddou'n rhedeg 'da i gily; ond fe redodd i disgibl arall in gynt na Pedr a dod i'r twm ginta. 5Pligodd e'n ishel a gweld i llieinie in gorwe fan 'ny, ond âth e ddim miwn. 6Dâth Simon Pedr wedyn ar i ôl e, a âth e miwn i'r twm; a welodd e'r llieinie in gorwe fan 'ny, 7a we'r llien we wedi bod ar i ben e ddim in gorwe da'r llieinie erill, ond wedi'i bligu lan ar wahân. 8Wedyn âth i disgibl arall miwn, ir un we wedi dod ginta at i twm miwn, a gweld a credu; 9achos wenyn nhwy in diall ir Isgrithur 'to we'n gweud bo raid iddo fe godi o farw. 10So âth i disgiblion getre 'to.
Iesu'n dangos i unan i Mair o Magdala
11We Mair in sefyll tu fas wrth i twm, in llefen. Wrth iddi lefen pligodd i lawr in ishel i edrych in i twm, 12a welodd i ddou angel miwn gwyn, un in ishte lle we pen Iesu wedi bod in gorwe a'r llall in ishte wrth lle we'i drad e wedi bod. 13Gwedon nhwy wrthi, “Pam wit ti'n llefen?” Gwedodd i wrthyn nhwy, “Man nhwy wedi mynd a'n Arglwidd i bant, a sena i'n gwbod ble man nhwy wedi'i roi e i orwe.” 14Pan wedodd i 'na troiodd i rown a gweld Iesu in sefyll 'na, ond nabiddodd i ddim ono fe fel Iesu. 15Gwedo Iesu wrthi, “Pam wit ti'n llefen? Pwy wit ti'n ddrich amdano?” Meddiliodd i taw'r garddwr wedd e a wedodd i, “Syr, os ŷch chi wedi mynd bant ag e, gwedwch ble ŷch chi wedi'i roi e i orwe, a fe â i ag e bant.” 16Gwedo Iesu wrthi, “Mair!” Troiodd i a gweud wrtho in iaith ir Iddewon, “Rabbwni!” (neu, Mishtir). 17Gwedo Iesu wrthi, “Paid gafel inda i, achos sena i wedi mynd at i Tad 'to; ond cer at in frodyr i a gweu 'tho nhwy, ‘Dw i'n mynd at in Dad a at ich Tad, at in Dduw i a at ich Duw chi.’” 18Âth Mair o Magdala a gweu 'th i disgiblion. “Dw i wedi gweld ir Arglwidd”, a'i fod e wedi gweud i pethe 'na wrthi.
Iesu'n dangos i unan i'r disgiblion
19Wedd i'n hwyr in prinawn ir un dwarnod, dwarnod cinta'r wsnoth, a we'r drwse lle we'r disgiblion wedi cau'n dynn achos we ofon ir Iddewon arnyn nhwy. Dâth Iesu a sefyll in u canol nhwy, a gweu 'tho nhwy, “Heddwch i chi.” 20Wedi 'ddo weud 'na dangosodd e i ddwylo a'i ochor iddyn nhwy. We'r disgiblion wrth u bodde pan welon nhwy'r Arglwidd. 21Gwedo Iesu wrthyn nhwy shwrne 'to, “Heddwch i chi. Fel ma'r Tad wedi'n hala i, dw i'n ich hala chi.” 22Wedi 'ddo weud 'na anadlodd e arnyn nhwy a gweu 'tho nhwy, “Derbiniwch ir Isbryd Glân. 23Os newch chi fadde pechode unrhyw un, wedyn gewn nhwy'u madde; os gadwch chi bechod unrhiw un, wedyn gawn nhwy'u cadw.”
Iesu'n dangos i unan i Tomos
24Weno Tomos (un o'r Twins), un o'r Douddeg, ddim 'da nhwy pan ddâth Iesu. 25Gwedo'r disgiblion erill wrtho fe, “Ŷn ni wedi gweld ir Arglwidd.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Os na na i weld marcs ir hoelon in i ddwylo, a rhoin fys in lle'r hoelon, a rhoi'n llaw in i ochor e, na i byth gredu.”
26Wyth dwarnod in ddiweddarach wen nhwy gida gily 'to, a we Tomos gidan nhwy. We'r drwse ar gau, ond dâth Iesu a sefyll in u canol nhwy a gweud, “Heddwch i chi.” 27Wedyn wedodd e wrth Tomos, “Dere â di fys 'ma a dricha ar in nwylo i; dere â di law 'ma a'i rhoi 'ddi in in ochor i; paid bod in ddyn sy ddim in credu, ond in ddyn sy'n credu.” 28Atebo Tomos, “In Arglwidd a'n Dduw i.” 29Gwedo Iesu wrtho fe, “Wit ti wedi credu achos bo ti wedi'n weld i? 'Na hapus yw'r rhei sy ddim wedi gweld ond sy wedi credu.”
30Nâth Iesu lot o bethe erill pan wedd e 'da'r disgiblion sy ddim wedi'i reito lawr in i llifyr 'ma; 31ond ma rhein wedi câl i reito lawr fel bo chi'n credu taw Iesu yw'r Meseia, Crwt Duw, a achos bo chi'n credu, câl bowid am byth in i enw fe.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies