Ioan 18
18
Iesu'n câl i aresto
1Pan wedo Iesu'r pethe 'ma i gyd, âth e mas 'da i ddisgiblion a croeshi nant Cidron. We gardd fa 'ny, a âth i ddisgiblion a finte miwn iddi. 2We Jwdas, ir un we'n mind i roi e lan, in gwbod am y lle 'fyd achos we Iesu'n arfer cwrdd â'i ddisgiblion fan 'ny. 3Cwmro Jwdas grŵp o sowldwrs a gweishon i penffeiradon a'r Ffariseied, a dethon nhwy a lanteri, ffagle a arfe. 4Gwedo Iesu wrthon nhwy, a finte'n gwbod popeth we'n mynd i ddigwydd iddo fe, “Pwy ŷch chi'n ddrichid amdano?” 5Atebon nhwy, “Iesu o Nasareth.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Fi yw e.” We Jwdas 'fyd, ir un we in i roi e lan, in sefyll gidan nhwy. 6Pan wedo Iesu wrthyn nhwy, “Fi yw e”, ethon nhwy am nôl a cwmpo ar i ddeiar. 7So holodd e nhwy shwrne 'to, “Pwy ŷch chi'n ddrichid amdano?” Gwedon nhwy, “Iesu o Nasareth.” 8Atebo Iesu, “Wedes i wrthoch chi taw fi yw e. Os ŷch chi'n drichid amdana i, gadwch i'r dinion hyn fynd” 9— fel bo'r gair wedd e wedi'i weud in dod in wir, “Sena i wedi colli neb o'r rhei nes di roi i fi.” 10We cleddyf gida Simon Pedr, a fe dinodd hi mas a bwrw gwas i Ffeirad Mowr, a torri'i glust dde fe bant. Enw'r gwas we Malchus. 11Gwedo Iesu wrth Pedr, “Rho di gleddyf nôl. Sena i'n mynd i hifed o'r cwpan ma'n Dad wedi rhoi i fi?”
Mynd â Iesu at Annas
12Arestodd i grŵp o sowldwrs, i comander a'r gweishon Iddewig Iesu, i glwmu e lan 13a mynd ag e ginta'n deg at Annas, achos wedd e'n dad-ing-nghifreth i Caiaffas, we'n Ffeirad Mowr i flwyddyn 'ny. 14Caiaffas we'r un we wedi gweu 'tho'r Iddewon i bod hi'n gwd thing bo un dyn in marw dros i bobol.
Pedr in gweud bo fe ddim in ddisgibl i Iesu
15Dilyno Simon Pedr a disgibl arall Iesu. We'r Ffeirad Mowr in nabod i disgibl hwnnw, a âth e miwn i glos tŷ'r ffeirad mowr gida Iesu. 16Ond we Pedr in sefyll tu fas i'r drws. So âth i disgibl arall, we'r ffeirad mowr in nabiddus ag e, mas a sharad da'r ferch wrth i drws, a dod â fe miwn. 17Gwedodd i wrth Pedr, “Wit ti'n un o'i ddisgiblion e 'fyd?” Gwedodd e, “Nadw, sena i.” 18We'r gweishon a'r dinion erill wedi cinnu tân cols achos bo i'n wer, a we nhwy sefyll fan 'ny in twmo. We Pedr in sefyll fan 'ny 'fyd in twmo.
Iesu in câl i gwestjwno gan i fferiad mowr
19Gofino'r ffeirad mowr i Iesu obitu'i ddisgiblion ac obitu beth wedd e'n i ddisgu. 20Atebo Iesu. “Dw i wedi sharad in agored o flân i byd. Dw i wedi disgu in i sinagog a heb gwato ddim byd. 21Pam gofyn i fi? Hola'r rhei sy wedi cliwed fi beth wedes i wrthyn nhwy. Man nhwy in gwybod beth wedes i.” 22Wedi 'ddo weud hyn, bwrodd un o'r dinon we'n sefyll fan 'ny Iesu reit ar grwes i wmed, a gweud, “A 'na'r ffordd wit ti'n sharad 'da'r ffeirad mowr?” 23Atebo Iesu fe, “Os wdw i wedu gweud unrhiw beth in rong, dangos rwbeth i weud 'ny; ond os wedes i rwbeth sy'n iawn, pam in fwrw i?” 24Clwmodd Annas e lan a'i hala fe at Caiaffas i ffeirad mowr.
Pedr in gweud weth bo fe ddim in ddisgibl i Iesu
25We Simon Pedr in sefyll in twmo i unan. Gwedon nhwy wrtho fe, “Wit ti'n un o'i ddisgiblion e?” Pledodd e bo fe ddim; gwedodd e, “Nadw, sena i.” 26Gwedodd un o weishon i ffeirad mowr, perthynas i'r dyn we Pedr wedi torri'i glust e bant, “Weles i ti in ir ardd 'dag e, ondofe?” 27Shwrne 'to ma Pedr in gwadu, a whap ma'r ceilog in canu.
Mynd â Iesu at Pilat
28Ethon nhwy â Iesu wrth Caiaffas i bencadlys i Rheolwr. Wedd i'n damed bach cyn i'r houl godi. Ethon nhwy u hunen ddim miwn i'r pencadlys, fel na fidde'n nhw'n neud u hunen in fowlyd in grefyddol a wedyn in ffaelu bita'r Pasg. 29So dâth Pilat mas atyn nhwy a gweud, “Beth sy 'da chi weud in erbyn i dyn 'ma?” 30Atebon nhwy e, “Os bise dyn 'ma ddim in ddyn drwg a fisen ni wedi'i roi e ind i ddwylo di?” 31Gwedo Pilat wrtho fe, “Cerwch ag e ich hunen, a barnwch e fel ma'ch cifreth chi in i weud.” Gwedo'r Iddewon wrtho fe, “Senon ni â'r hawl i roi neb i farwoleth.” 32We hyn fel bo geirie Iesu in dod in wir pan wedodd e shwt wedd e'n mynd i farw. 33Âth Pilat nôl miwn i'r pencadlys, a galw Iesu i ddwâd ato fe a gweu 'tho, “Ti yw Brenin ir Iddewon?” 34Atebo Iesu, “Ti sy'n gweud 'na di unan, neu wes rhei erill wedi gweu 'tho ti amdana i?” 35Atebo Pilat, “Wdw i'n Iddew? Di bobol di a'r penffeiradon sy wedi di rhoi di lan i fi. Beth wit ti wedi'i neud?” 36Atebo Iesu, “Seno'n frenhineth i in dwâd o'r byd 'ma. Os bise'n frenhineth i in dwâd o'r byd 'ma bise'n weishon i wedi wmla, fel na bise'n i'n câl in roi lan i'r Iddewon; ond, fel ma i, senon'n frenhinieth in dod o fan 'yn.” 37Gwedo Pilat wrtho, “So wit ti'n frenin?” Atebo Iesu, “Ti sy'n gweud bo fi'n frenin. Dw i'n gweud bo fi wedi câl ing ngeni a wedi dwâd miwn i'r byd ar gownt hyn, i weud am i gwirionedd. Ma pobun sy â'r gwirionedd indyn nhwy in grondo ar in llaish i.” 38Gwedodd Pilat wrtho fe, “Beth yw gwirionedd?”
Pan wedd e wedi gweud hyn âth e mas 'to at ir Iddewon a gweu 'tho nhwy, “Sena i'n galler gweld dim byd indo fe i ateb; 39ond ma arfer 'da chi bo fi'n gadel dyn in rhydd ichi amser Cwrdde Mowr Pasg. Licech chi fi adel Brenin ir Iddewon in rhydd i chi?” 40Gweiddon nhwy nôl, “Ddim fe, ond Barabbas.” Lleidir we Barabbas.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies