Ioan 13
13
Iesu'n golchi trade'r disgiblion
1Wedd i cyn Cwrdde Mowr i Pasg. We Iesu'n gwbod bod i awr e wedi dod i adel i byd 'ma at i Tad. Wedd e wedi caru rhei i unan in i byd, a nâth e u caru nhwy reit i'r diwedd. 2We'r jawl wedi diseido'n barod taw Jwdas, mab Simon Iscariot, we'n mynd i roi e lan. 3Pan wen nhwy'n bita swper, a Iesu'n gwbod bo'r Tad wedi rhoi popeth in i ddwylo e, a'i fod e wedi dod wrth Dduw a'i fod e'n mynd at Dduw, 4cododd Iesu o'r ford, tinnu'i glogyn, a rhoi towel rownd i ganol; 5wedi allwishodd e ddŵr i mewn i fasin a dachre golchi trade i ddisgiblion a'u sichu nhwy 'dar towel wedd e wedi rhoi rownd i ganol. 6Dâth e at Simon Pedr. Gwedo Pedr wrtho, “Arglwidd, wit ti'n mynd i olchi'n drâd i?” 7Atebo Iesu, “Senot ti'n gwbod nawr beth dw i'n neud i ti, ond fe fiddi di'n diall wedyn.” 8Gwedo Pedr wrtho, “Neu di byth golchi'n drâd i!” Atebo Iesu, “Os na na i di olchi di sdim part 'da ti in beth dw i'n mynd i neud.” 9Gwedo Simon Pedr wrtho, “Arlgwidd, paid dim ond golchi in drâd i ond in ddwylo a'n ben i 'fyd.” 10Gwedo Iesu wrtho, “Dim ond golchi i drâd sy ar rhiwun sy wedi câl bath, ma rest o'r corff in lân; a wit ti'n lân, ond seno pob un o chi”; 11achos wedd e'n gwbod i dyn fidde'n rhoi e lan. Achos hyn wedodd e, “Seno pob un o chi in lân.”
12Wedi 'ddo olchi u trade a gwishgo'i glogyn a ishte lawr 'to, gwedodd e wrthyn nhwy, “Senoch chi'n diall beth dw i wedi'i neud i chi? 13Ŷch chi'n in ing ngalw i in Fisthir a'n Arglwidd, a ma 'na iawn, achos 'na beth wdw i. 14Ond os wdw i, ich Arglwidd a'ch Mishtir, wedi golchi'ch trade chi, ddilech chi olchi trade'ch gily. 15Achos rhoi esiampl i chi dw i wedi neud, fel bo chi'n neud in gowir fel nes i. 16Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, seno'r gwas in fwy na'i fishtir, a seno'r un sy'n câl i hala in fwy na'r un nâth i hala fe. 17Os ŷch chi'n gwbod hyn, ŷch chi'n hapus os newch chi e.
Iesu'n gweud beth bydd Jwdas in neud
18“Sena i'n sharad am bob un o chi. Dw i'n gwbod pwy ddewishes i. Ond gadwch i'r Isgrithur gâl dod in wir, 'Ma'r un sy'n bita in fara wedi mosod arna i'n gas.’ 19Dw i'n gweud hyn wrthoch chi nawr cyn 'ddo ddachre fel bo chi'n galler credu taw fi yw e. 20Dw in gweud i gwir wrthoch chi, ma unrhiw un sy'n folon derbyn unrhiw un dw i'n i hala in in dderbyn i, a ma unrhiw un sy'n in dderbyn i in derbyn ir un nâth in hala i.”
21Pan we Iesu wedi gweud hyn wedd e'n llawn gofid a gweiddodd e, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd un onoch chi in in roi i lan.” 22We'r disgiblion in drych ar i gily, achos wenyn nhwy'n gwbod pwy wedd e'n i feddwl. 23-24Achos bo Simon Pedr wedi dangos bo fe am wbod gofinno un o ddisgiblion Iesu, ir un wedd e'n i garu a we'n ishte ar i bwys e, pwy wedd e'n i feddwl. 25A wrth iddo fe bligu dros Iesu holodd e, “Arglwidd, pwy yw e?” 26Atebo Iesu, “Ir un byddai'n rhoi'r clwt o fara 'ma iddo fe ar ôl i ddipo fe in i ddishgyl.” Wedyn nâth e ddipo clwt o fara, i gwmrid e mas a rhoi fe i Jwdas, mab Simon Iscariot. 27Wedi 'ddo fita fe âth Satan miwn iddo. Gwedo Iesu wrtho, “Ned beth wit ti'n neud in glou.” 28Weno un o'r lleill we'n ishter rownd i ford gidag in diall pan wedd e wedi sharad gidag e. 29We rhei'n meddwl achos bo Jwdas in cadw'r bocs arian bo Iesu wedi gweu 'tho fe, “Perna beth sy ishe ar gownt i Ffest”, neu ddile fe roi rhwbeth i'r dinion llwm. 30So shwrne iddo fe gwmrid i clwt bara, âth e mas ar unweth. Wedd i'n nos.
Iesu'n gweud bydd Pedr in cwmpo
31Wedi 'ddo fynd mas gwedo Iesu, “Nawr ma Crwt i Dyn i gâl i ogoniant, a indo fe ma Duw in câl gogoniant. 32Os yw Duw in câl gogoniant indo fe, bydd Duw in rhoi gogoniant iddo fe in i bresenoldeb e, a bidd e'n neud 'ny ar unweth. 33In blant i, bidda i 'da chi am damed bach 'to. Biddwch chi'n whilio amdana i, fel wedes i wrth ir Iddewon, 'Lle dw i'n mynd allwch chi ddim dwâd', 34a dw i'n gweud 'na wrthoch chi nawr. Dw i'n rhoi gorchimin newy ichi: carwch ich gily; carwch ich gily fel dw i wedi'ch caru chi. 35Bydd dinion in gwbod ich bo chi'n ddisgiblion i fi wrth shwt ŷch chi'n caru'ch gily.”
36Gwedo Simon Pedr wrtho, “Arglwidd, ble wit ti'n mynd?” Atebo Iesu, “Lle dw i'n mynd allach chi ddim in ddilyn i nawr, ond biddwch chi'n dilyn nes mlân.” 37Gwedo Pedr wrtho, “Arglwidd, pam alla i ddim dilyn nawr? Bidda i'n rhoi in fowid lawr ar di gownt di.” 38Atebo Iesu, “Nei di roi di fowid lawr ar in gownt i. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, fydd i ceilog ddim in canu nes di fod di wedi gweud bo ti ddim in perthyn i di dair gwaith.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies