Ioan 12

12
Mair in rhoi sent ar Iesu
1Whech dwarnod cyn i Pasg dâth Iesu i Bethania, lle we Lasarus, wedd e wedi'i godi fe o farw. 2Nethon nhwy bryd o fwyd iddo fan 'ny a Martha we'n dod â pethe i'r ford; a Lasarus we un o'r rhei we'n ishte rownd ford 'dag e. 3Cwmrodd Mair rhyw bownd o sent, nard iawn wedd e a achos 'ny in ddrud, a rhoi'r sent dros drâd Iesu, a wedyn sichodd i i drâd e 'da i gwallt. Gâd i tŷ i lenwi a smel neis i sent. 4Gwedodd Jwdas Iscariot, un o'i ddisgiblion, a'r un we'n mynd i roi fe lan, 5“Pam na gâs i sent 'ma i werthu a rhoi'r arian i ddinion llwm?” 6Gwedodd e hyn, ddim achos i fod e'n becso dim am i tlawd, ond achos i fod e'n gofalu am i bocs-arian a achos i fod e'n leidir wedd e'n dwyn beth we'n câl i roi mewn. 7Gwedo Iesu, “Gadwch iddi fod; gadwch iddi gadw'r sent erbyn dydd in gladdu i; 8achos ma'r dinion llwm 'da chi o hyd, ond fidda i ddim 'da chi am byth.”
9We crowd mowr o'r Iddewon wedi stando fod Iesu 'na, a ddethon nhwy ddim dim ond o'i achos e, ond i weld Lasarus 'fyd, yr un wedd e wedi codi o farw. 10We'r penffeiradon in dâr u bo nhwy am ladd Lasarus 'fyd, 11am fod lot o'r Iddewon o'i achos e in u gadel nhwy a'n credu in Iesu.
Iesu'n mynd miwn i Jerwsalem
12Tranoth cliwo'r crowde we wedi dod i'r Cwrdde Mowr fod Iesu in dod i Jerwsalem; 13a cwmron nhwy ganghene o'r llwydni a mynd mas i gwrdd ag e. Wen nhwy gweiddi trw'r amser,
“Hosanna!
Ma'r un sy'n dod in enw ir Arglwidd in hapus!
Ma Brenin Isrel in hapus!”
14Ffindodd Iesu asyn ac ishteddodd ar i gewn, in gowir fel in is isgrithur sy'n gweud,
15“Paid câl ofon, rhoces Sion;
dricha, mae di Frenin in dod,
in ishte ar ebol asyn.”
16Nâth i ddisgiblion ddim diall hyn in i lle cinta, ond pan we Iesu wedi câl i ogoniant, wedi cofion nhwy i fod e wedi câl i reito amdano fe in ir Isgrithur, a bo dinion wedi neud hyn i gyd. 17We'r crowd we wedi bod dag e pan alwodd e ar Lasarus mas o'r twm a'i godi fe o farw in gweud am hyn. 18Âth i crowd i gwrdd ag e 'fyd achos wen nhwy wedi cliwed i fod e wedi neud i sein 'ma. 19Gwedo'r Ffariseied wrth i gily, “Wit ti'n gweld bo ti'n geingo dim byd. Dricha, ma'r byd i gyd wedi mynd ar i ôl e!”
Iesu'n gweud bo fe'n mynd i farw
20In i crowde we wedi dod lan i addoli amser i Cwrdde Mowr we rhei Groegied. 21Ethon nhwy at Philip o Bethsaida ing Galilea, in gofyn, “Mishtir, ŷn ni moyn gweld Iesu.” 22Dâth Philip a gweud wrth Andreas; dâth Andreas a Philip a gweu 'th Iesu. 23Atebo Iesu nhwy, “Ma'r awr wedi dod pan fydd Crwt i Dyn in câl i ogoneddu. 24Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, os na neith gronyn o lafur gwpo i'r ddeiar a marw, dim ond un gronyn fydd e; ond os neith e farw, bydd e'n ffrwytho a ffrwytho. 25Mae rhiwun sy'n caru i fowid in i golli, a unrhiwun sy'n casáu i fowid in i byd 'ma in i gadw a'n câl bowid am byth. 26Os neith unrhiw un in wasaneithu i, gadwch iddyn nhwy in ddilyn i, a man lle bidda i 'na lle bydd in was i 'fyd. 27Nawr ma'n ened i'n llawn gofid, a beth ddilen i weud? O Dad, safia fi rhag ir awr 'ma? Ond 'na pam ddes i i'r awr 'ma. 28O Dad, rho ogoniant i di enw di.” Dâth llaish o'r nefodd, “Dw i wedi rhoi gogoniant iddo, a fe fidda i'n rhoi gogoniant iddo 'to.” 29Cliwo'r crowd we'n sefyll fan 'ny ond wedon nhwy taw trwste wedd e. Gwedo rhei erill, “Ma angel wedi sharad gidag e.” 30Atebo Iesu, “Ddim ar in gownt i ddâth i llaish 'ma, ond ar ich cownt chi. 31Ma'r byd in câl i farnu nawr; bydd ir un sy'n rhedeg i byd hwn in câl i hala mas nawr. 32A pan bidda i'n câl ing godi lan o'r ddeiar, bidda i'n tinnu pob un ata i.” 33Gwedodd e hyn i ddangos shwt bidde fe'n marw. 34Atebo'r crowd, “Ŷn ni wedi cliwed in i Gifreth bo'r Meseia in aros am byth; shwt wedyn 'te wit ti'n galler gweud bo Crwt i Dyn in mynd i gâl i godi lan? Pwy yw'r un sy'n câl i alw in Grwt i Dyn?” 35Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Seno'r gole mynd i fod 'dach chi ond am damed bach 'to. Cerddwch tra bo gole 'dach chi, fel bo'r tewillwch ddim in dod drostoch chi; sneb sy'n cered in i tewillwch in gwbod ble mae e'n mynd. 36Tra bo'r gole 'dach chi, credwch in i gole, fel gallwch chi ddod in blant i'r gole.”
Pan wedo Iesu hyn, âth e bant a cwato wrthon nhwy.
Ir Iddewon ddim in credu o hyd
37Achos er bo fe wedi neud lot o beth in u golwg nhwy wenon nhwy wedi credu indo fe, 38fel bo'r geire a wedo'r proffwd Eseia in dod in wir,
“Arglwidd, pwy sy wedi credu'n neges ni?
A pwy sy wedi câl gweld nerth Arglwydd?”
39Allen nhwy ddim credu achos ma Eseia in gweud 'fyd,
40“Mae e wedi dallu u lliged nhwy,
wedi neud nhwy'n drwm u meddwl.
'Se fe ddim wedi neud 'ny bisen nhwy'n gweld 'da u lliged,
in diall 'da'u meddilie, a'n troi,
a bisen i'n gwella nhwy.”
41Gwedo Eseia hyn achos bo fe'n gweld gogoniant Iesu a'n sharad amdano fe. 42Ond er gwaetha'r cwbl credodd hyd 'n ôd lot o'r dinion blân indo fe, ond achos i Ffariseied we-nhwy ddim in folon gweud 'ny in agored, achos we ofon arnyn nhwy bisen nhwy'n câl u towlu mas o'r sinagog; 43achos wen nhwy'n dwlu ar gâl parch 'da dinion in lle câl parch 'da Duw.

በአሁኑ ጊዜ የተመረጠው፡

Ioan 12: DAFIS

ማድመቅ

ኮፒ

አወዳድር

ያጋሩ

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ