Ioan 14
14
Iesu'n cisuro'i ddisgiblion
1“Peidwch gadel i'ch calon fod in llawn gofid. Credwch in Nuw; credwch inda i 'fyd. 2Ma sawl rŵm in tŷ in Dad. Os na fidde fe, a fisen i wedi gweu 'tho chi bo fi'n mynd i baratoi lle ichi? 3A os dw i'n mynd i baratoi lle ichi, dw i'n dod nôl, a bidda i'n ich cwmrid chi ata i'n unan, fel gallwch chi fod lle dw i. 4Ŷch chi'n gwbod i ffordd i ble dw i'n mynd.”
Iesu yw'r ffordd at i Tad
5Gwedo Tomos wrtho fe, “Arglwidd, senon ni'n gwbod ble wit ti'n mynd; shwt wedyn allwn i wbod i ffordd?” 6Gwedo Iesu wrtho, “Fi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bowid. Sneb in dod at i Tad ond trwidda i. 7Os ŷch chi in in nabod, biddwch chi in in nabod in Dad i 'fyd. O nawr mlân ŷch chi in i nabod e a wedi'i weld e.”
8Gwedo Philip wrtho fe, “Arglwidd, dangos i Tad i ni, a bidd 'na'n ddigon i ni.” 9Gwedo Iesu wrtho, “A wdw i wedi bo 'da chi'r holl amser 'ma a wedyn weth senoch chi in in nabod i, Philip? Ma unrhyw in sy wedi ing ngweld i wedi gweld i Tad. Pan ŷch chi'n gweud, 'Dangos i Tad i ni'? 10Senoch chi'n credu bo fi in i Tad a bo'r Tad inda i? Sa i'n gweud beth dw i'n gweud wrthoch chi ar in gomands in unan; i Tad sy'n byw inda i sy'n neud i waith i unan. 11Credwch chi fi bo fi in i Tad a bod i Tad inda i; neu credwch i pethe sy wedi câl u neud. 12Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd unrhiw un sy'n credu inda i in neud i pethe dw i'n u neud, a hyd 'n ôd pethe mwy 'na 'ny achos bo fi'n mynd i fod da'r Tad; 13a beth binnag newch chi ofyn amdano in in enw i, bidda i in i neud, fel bo'r Tad in câl gogoniant in i Mab. 14Os gofinnwch chi am unrhiw beth in in enw i, bidda i'n i neud e.
Halith i Tad ir Isbryd Glân
15“Os ŷch chi in in garu i biddwch chi'n cadw in orchminion i; 16a gofina i i'r Tad a bydd e'n rhoi Un arall i'ch helpu chi, i fod 'da chi am byth, 17Isbryd i gwirionedd, seno'r byd in galler i dderbyn e achos seno fe'n galler i weld a seno'n i nabod e. Ŷch chi'n i nabod e achos mae e'n aros 'da chi a mae e indo chi.
18“Na i ddim ich gadel chi ar ich pene'ch unen; dw i'n dod atoch chi. 19O fon hir fydd i byd ddim in ing ngweld i, ond biddwch chi in in weld i. Achos bo fi'n fyw biddwch chi'n fyw 'fyd. 20I dwarnod 'ny biddwch chi'n gwbod bo fi in in Dad, ich bo chi inda i a bod fi indo chi. 21Ma unrhiw un sy'n gwbod in orchminion i a'n u cadw nhw in in garu i; a ma unrhiw un sy in in garu i in câl i garu 'da'r Tad, a bidda i'n u caru nhwy a'n dangos in hunan iddyn nhwy.” 22Gwedo Jwdas (ddim Iscariot, ond y llall) wrtho fe, “Shwt ma i Arglwidd bo ti'n mind i ddangos di unan i ni, ond ddim i'r byd?” 23Atebo Iesu fe, “Os ma unrhiw un in in garu i biddan nhwy in cadw in air i, a bydd in Dad in u caru nhwy, a biddwn ni'n dod atyn nhwy a neud in cetre da nhwy. 24Seno'r rhei senyn nhwy in ing ngaru i in cadw in eire i; a ddim ing ngair i ŷch chi'n i gliwed ond gair i Tad sy wedi'n hala i.
25Dw i wedi gweud i pethe hyn wrthoch chi a fi 'da chi o hyd; 26ond bydd i'r Un sy'n dod i helpu, ir Isbryd Glân ma'r Tad in mynd i hala in in enw i, in disgu popeth i chi a'ch atgoffa chi amdana i. 27Wrth fynd bant dw i'n gadel heddwch 'da chi — in heddwch in unan, ddim fel ma'r byd in i roi. Peidwch gadel i'ch calon ofidio; peidwch câl ofon. 28Cliwoch chi fi'n gweud, 'Dw i'n mynd bant, a bidda'n dod nôl atoch chi.’ Os bisech chi in in garu i bisech chi wedi bod wrth ich bodd bo fi'n mynd nôl at i Tad, achos ma'r Tad in fwy na fi. 29Hyd 'n ôd nawr dw i wedi gweu 'tho chi cyn iddo ddigwydd, fel ich bo chi'n credu pan ddigwiddith e. 30Bidda ddim in sharad lot mwy 'da chi, achos ma'r un sy'n rhedeg i byd 'ma in dod. Ond sdag e ddim comands drosta i; 31ma'r cifan in digwydd fel bo'r byd in gwbod bo fi in caru'r Tad a bo fi'n neud fel ma Tad wedi gofyn ifi neud. Codwch, gadwch inni fynd o fan 'yn.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies