Ioan 11
11
Lasarus in marw
1We di we ddim in iawn, Lasarus o Bethania, o bentre Mair a'i whâr Martha. 2I Mair we wedi rhoi sent pert dros drâd ir Arglwidd a wedi sichu'i drâd e 'da'i gwallt, i brawd hi Lasarus we'n dost. 3So halo'r ddwy whâr neges at Iesu, in gweud, “Arglwidd, ma di ffrind in dost.” 4Pan gliwo Iesu gwedodd e, “Seno'r salwch 'ma in mind i oligu marw, ond gogoniant i Dduw, fel bo Crwt Duw in câl gogoniant trwiddo fe.” 5We Iesu in caru Martha a'i whâr a Lasarus. 6Pan gliwodd e bo fe'n dost, arosodd e am ddou ddwarnod lle wedd e; 7wedyn, ar ôl 'ny, gwedodd e wrth i ddisgiblion, “Gadwch i ni fynd i Jwdea shwrne 'to.” 8Gwedodd i ddisgiblion e, “Mishtir, jwst nawr we'r Iddewon in treial i gore i dowlu cerrig atat ti; wit ti'n mynd nôl 'na 'to?” 9Atebo Iesu, “Ma douddeg awr mewn dydd, on'd wes e? Os ma dyn in cered in gole dydd, seno fe mynd i dripo, achos mae e'n gweld gole'r byd hwn.” 11Wedi gweud 'na, wedodd e wedyn, “Ma Lasarus in ffrind ni wedi cwpo i gisgu; ond sena i ar in ffordd i ddihuno fe.” 12Gwedo'i ddisgiblion wrtho fe, “Arglwidd, os mae e wedi cwmpo i gisgu, bydd ein gwella.” 13We Iesu wedi sharad amdano'n marw, ond wen nhwy'n meddwl taw sharad am gisgu fel arfer wedd e. 14Wedyn gwedo Iesu wrthyn nhwy'n blaen, “Ma Lasarus wedi marw, 15a dw i'n falch ar ich cownt chi na wen i ddim 'na, fel bo chi'n credu. Gadwch ini fynd ato fe.” 16So wedo Tomos (un o'r Twins) wrth i disgiblion erill, “Gadwch inni fynd ar in pene'n hunen, fel gallwn ni farw gidag e.”
Iesu'n gyda'r ddwy whâr
17Pan ddâth Iesu, gâth e wbod fod Lasarus wedi bod in farw am bedwar dwarnod. 18We Bethania ar bwys Jerwsalem, rhyw ddwy neu dair milltir bant. 19We lot o'r Iddewon wedi dod at Martha a Mair i ddangos cydymdeimlad achos u brawd. 20Pan gliwo Martha bo Iesu'n dwâd, ath hi i gwrdd ag e; ond ishteddodd Mair in i tŷ. 21Wedyn gwedo Martha wrth Iesu, “Arglwidd, os biset ti wedi bod 'ma bise'n frawd i ddim wedi marw. 22Hyd 'n ôd nawr dw i'n gwbod bydd Duw in folon rhoi ti beth binnag neud di holi amdano fe.” 23Gwedo Iesu wrthi, “Bydd di frawd in codi 'to.” 24Gwedo Martha wrtho fe, “Dw i'n gwbod fydd e'n codi 'to pan bydd pob un in codi in ir atgifodiad ar i Dwarnod dwetha.” 25Gwedo Iesu wrthi, “Fi yw'r atgifodiad a'r bowid. Bydd unrhiw un sy'n credu inda i ddim in marw; 26a sneb sy'n byw a'n credu inda i in mynd i farw. Wyt ti'n credu 'na?” 27Gwedodd i wrtho fe, “Wdw, Arglwidd, dw i'n creu taw ti yw'r Meseia, Crwt Duw, ir un sy'n dod miwn i'r byd.”
28Pan wedd i wedi gweud hyn, âth hi a gweiddi ar i whâr Mair, a gweu 'thi pan we neb arall in galler cliwed, “Ma'r Mishtir 'ma a mae e'n gofyn amdanot ti.” 29Pan gliwo Mair fe gododd i ar unweth a dwâd ato fe. 30We Iesu ddim wedi dod miwn i'r pentre 'to, ond wedd e in i lle we Martha wedi cwrdd ag e o hyd. 31So pan welo'r Iddewon we gida Mair in i tŷ in gofalu amdani hi'n gadel a mynd mas in glou, ethon nhwy ar i hôl hi achos bo nhwy'n meddwl i bod hi'n mynd i'r twm i fwrno fan 'ny. 32Pan ddâth i at i lle we Iesu a'i weld e, cwmpodd i wrth i drâd e a gweu 'tho fe, “Arglwidd, os biset ti wedi bod 'ma bise'n frawd i ddim wedi marw.” 33Gwelo Iesu hi'n llefen, a we'r Iddewon we wedi dod 'da hi in llefen 'fyd. Wedd i'n blaen i fod e dan deimlad a gwedodd e, 34“Ble ŷch chi wedi'i galddu e?” Gwedon nhwy wrtho fe, “Mishtir, dere i weld.” 35Llefodd Iesu. 36Wedyn gwedo'r Iddewon, “Drichwch gwmint wedd e'n i garu e!” 37Ond wedo rhei ohonyn nhwy, “Agorodd e liged i dyn dall. Peth od bo fe'n ffeilu neud dim byd i stopo'r dyn 'ma farw.”
Iesu'n codi Lasarus o farw
38Dâth Iesu at i twm, a gallech chi weld 'to fod rhwbeth mowr in bod. Wedd i twm mewn ogof gida carreg in i erbyn. 39Gwedo Iesu, “Tinnwch i garreg bant.” Gwedo Martha whâr i dyn we wedi marw wrtho fe, “Mishtir, ma shŵr o fod smel ofnadw nawr; mae e wedi bod in farw pedwar dwarnod.” 40Gwedo Iesu wrthi hi, “Nes i ddim gweu 'thot ti biset ti'n gweld gogoniant Duw os biset ti'n credu?” 41So simudon nhwy'r garreg; drichodd Iesu lan a gweud, “Dad, dw i'n jolch i ti bo ti wedi'n gliwed. 42Dw i'n unan in gwbod bo ti'n cliwed fi trw'r amser; ond ar gownt i crowd sy'n sefyll rownd dw i wedi gweud hyn, fel bo nhwy'n credu taw ti nâth in hala i.” 43Wedi gweud hyn fe weiddodd e â llaish uchel, “Lasarus, dere mas.” 44Dâth i dyn we wedi marw mas, gida bandejis rownd i ben a'i drâd, a llien dros i wmed e. Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Tinwch i bandejis a'r lleinie a gadwch iddo fynd in rhydd.”
Trefnu i ladd Iesu
45Wedi gweld hyn nâth pŵer o'r Iddewon wedi dod at Mair gredu indo fe, 46ond âth rhei onyn nhwy at y Ffariseied a gweu thyn nhwy beth we Iesu wedi neud. 47So galwo'r penffeiradon a'r Ffariseied ar i Cownsil Mowr i gwrdd a gweud, “Ma'r dyn 'ma in neud lot o bethe. Beth ŷn ni'n neud? 48Os gadwn ni e fel mae e, bydd bob un in credu indo fe, a deith i Rhufeinied a distrwio'n temel ni a'n cenedl.” 49Gwedo un onyn nhwy, Caiaffas, wedd e'n ffeirad mowr i flwyddyn 'ny, “Senoch chi'n gwbod dim byd; 50senoch chi'n meddwl i bod hi'n gwd thing i chi bod un dyn in marw dros i bobol, fel bo'r genedl gifan ddim in marw.” 51Ddim o dan i gomands i unan wedodd e hyn, ond fel ffeirad mowr am i flwyddyn proffwydodd e fod Iesu in mynd i farw dros i genedl, 52a ddim dim ond dros i genedl, ond er mwyn casglu plant Duw i gyd at i gily. 53So o'r dydd 'na mlân we'r Iddewon in bendant u bo nhwy'n mynd i ladd Iesu.
54So wedi 'ny we Iesu ddim in mynd bitu'r lle in agored lle we'r Iddewon, ond âth e o ardal 'ny i bart in agos i'r lle diffeth, i dre o'r enw Effraim, a fan 'ny arosodd e gida'i ddisgiblion.
55We Cwrdde Mowr Pasg ir Iddewon in agos, a we lot in mynd lan i Jerwsalem o'r wlad cyn i Pasg, i neud in shŵr u bo nhwy'n lân in grefiddol cyn i Cwrdde Mowr. 56Wen nhwy whilio am Iesu a'n clebran rhynt i gilyd, fel wen nhwy'n sefyll in i deme, “Beth ŷch chi'n i feddwl? Seno fe mynd i ddwâd i'r Cwrdde Mowr, ody e?” 57We'r penffeiradon a'r Ffariseied wedi rhoi ordors os we unrhiwun in gwbod ble wedd e, fe ddile fe roi gwbod fel gallen nhwy i aresto fe.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies