Ioan 10
10
I bugel a'i ddefed
1“Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, ma unrhiw un sy ddim in mind miwn i'r lloc trw'r bwlch, ond cleimo miwn rhyw ffor arall, in un sy'n dwgid a'n dwyn; 2ond ma bugel i defed in dwâd miwn trw'r bwlch. 3Ma'r un sy'n gofalu ar ôl i bwlch in i adel e trwyddo, a ma'r defed in cliwed i laish e; mae e'n galw i ddefed i hunan wrth u henwe a'n u harwen nhwy mas. 4Pan ddeith e mas â bopeth mae e pia bydd e'n cered o'u blân nhwy, a bydd i defed in i ddilyn e achos u bo nhwy'n nabod i laish e. 5Newn nhwy ddim dilyn dyn dierth achos senon nhwy'n nabod llaish dinion dierth.” 6Gwedo Iesu'r ddameg 'ma wrthyn nhwy, ond wenon nhwy in diall beth wedd e'n weud wrthyn nhwy.
7Gwedo Iesu shwrne 'to, “Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, fi yw'r bwlch i'r defed fynd trwyddo. 8Rhei'n dwgid a dwyn we pobun ddâth o'n flân i, ond nâth i defed ddim grondo arnyn nhwy. 9Fi yw'r bwlch; os deith rhiwun miwn trwidda i bydd e'n câl i safio, a geith fynd miwn a ffeindo porfa. 10Ma'r dyn sy'n dwyn in dod miwn in unswydd i ddwgid a lladd a distriwo. Dw i wedi dod fel bo dinion in câl bowid, a bo'r bowid 'na in well na gall neb i fesur. 11Fi yw'r bugel da. Ma'r bugel da in folon marw in lle i ddefed. 12Seno'r rhei sy'n câl u talu i neud i job in fugelied na'n pia'r defed, a gadan nhwy'r defed a jengid pan welan nhwy flaidd in dod, a ma'r blaidd in i dala nhwy a'n hala'r defed i bob man. 13Ma hyn in digwydd achos seno'r rhei sy'n câl talu in becso dim byd am i defed. 14Fi yw'r bugel da; dw i'n nabod in ddefed i, a man nhwy in in nabod i, 15fel ma'r Tad in in nabod i, a dw i'n nabod i Tad; a dw i'n rhoi in fowid in lle'r defed. 16Ma defed erill 'da fi 'fyd sy ddim in perthyn i'r ddadell 'ma. Rhaid i fi ddod â nhwy 'fyd a biddan nhwy'n grondo ar in llaish i, a biddan nhwy'n un ddadell gida un bugel. 17Ma'r Tad in in garu i, achos bo fi'n folon rhoi'n fowid fel bo fi'n galler i gâl e nôl shwrne 'to. 18Sneb in mynd a'n fowid wrtha i, ond dw i'n folon i roi ei achos bo fi moyn neud 'ny. Ma hawl 'da fi i roi e, a ma hawl 'da fi i gâl e nôl 'to. 'Na beth ma'n Dad wedi gweu 'tha i neud.”
19Shwrne 'to we'r Iddewon in an-gidweld 'da'i gily achos beth wedd Iesu wedi'i weud. 20We lot onyn nhwy in gweud, “Ma cithrel 'dag e a mae e off i ben. Pam ŷch chi'n grondo arno fe?” 21We lot arall in gweud, “Ddim geire rhiwun sy â cithrel yw rhein. Ody cithrel in galler agor lliged dinion dall?”
Seno'r Iddewon in credu
22We Cwrdde Mowr i Dediceshon in digwydd in Jerwsalem. 23Wedd i'n eia; a we Iesu'n cered in i deml, in cloestr Solomon. 24Dâth ir Iddewon rown 'ddo a gweu 'tho fe, “Am faint mor hir wit ti'n mynd in cadw ni'n dishgwyl? Os ti yw'r Meseia, gwêd ni'n agored.” 25Atebo Iesu nhwy, “Dw i wedi gweud wrthoch chi, ond senoch chi'n credu. Ma'r pethe dw i'n neud in enw in Dad in sharad amdana i; 26ond senoch chi'n credu, achos senoch chi'n ddefed i fi. 27Ma'n nefed i in grondo ar in llaish i; dw i in u nhabod nhwy a man nhwy in in ddilyn i. 28Dw i'n rhoi bowid am byth iddyn nhwy; a biddan nhwy byth in câl u colli, a bydd neb in galler mynd â nhw mas o'n llaw i. 29Ma beth ma'n Dad wedi rhoi i fi in fwy na dim byd arall, a sneb in galler mynd â dim byd mas o law i Tad. 30Ma'r Tad a fi in un.”
31'Co'r Iddewon in pigo cerrig lan shwrne 'to i dowlu ato fe. 32Atebo Iesu nhwy, “Dangose i lot o bethe da wrth i Tad i chi. Am bwy un o'r pethe ma ŷch chi'n mynd i dowlu'r cerrig 'na ata i?” 33Atebo'r Iddewon, “Senon ni'n meddwl towlu'r cerrig 'ma atat ti achos i pethe da wit ti wedi neud, ond achos bo ti'n cablu, a achos bo ti, a ti in ddyn, in neud di hunan in Dduw.” 34Atebo Iesu nhwy, “Sen i wedi câl i reito in ich Cifreth chi. 'Gwedes i, ŷch chi'n dduwie'? 35Galwodd e nhwy'n dduwie, i rhai we wedi derbyn gair Duw, a gallwch chi ddim anghofio am ir Isgrithur. 36Ŷch chi wedyn in gweud wrth ir un nâth i Tad i farco fe mas fel rhiwun i neud gwaith sbeshal cyn iddo ddod miwn i'r byd, 'Wyt ti'n cablu', achos bo fi'n gweud, 'Crwt Duw wdw i'? 37Os nadw i'n neud gwaith in Dad, peidwch credu inda i; 38ond os wdw i'n neud, hyd 'n ôd os nadi chi in credu inda i, credwch in beth dw i'n neud, er mwyn ichi ddiall a gwbod fod i Tad inda i a bo fi in i Tad.” 39A shwrne 'to fe dreion nhwy i aresto fe; ond jengodd e mas o'u dwylo nhwy.
40Âth e nôl weth dros afon Iorddonen i'r man lle we Ioan wedi bod in bididdio ar i dachre, a aros fan 'ny. 41Dâth lot ato fe. Gwedon nhwy. “We Ioan ddim in neud pethe, ond we popeth wedo Ioan am i dyn 'ma in wir.” 42A credo lot o ddinion indo fe fan 'ny.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies