Amos 3
3
PEN. III.—
1Gwrandewch y gair yma,
Yr hwn a lefarodd yr Arglwydd am danoch chwi, meibion Israel:
Am yr holl deulu;
Yr hwn a ddygais i fyny o wlad yr Aipht,
Gan ddywedyd,
2Chwi yn unig a adnabum;
O holl deuluoedd y ddaear;
Am hyny ymwelaf#dialaf arnoch. LXX. â chwi;
Am eich holl anwireddau.
3A rodia dau yn nghyd:
Heb fod o honynt yn gytun.#onid adwaenant eu gilydd. LXX.
4A rua llew mewn coedwig;
Ac heb ysglyfaeth ganddo:
A leisia cenaw llew o’i ffau;
Heb ddàl dim.
5A syrth aderyn mewn magl ar y ddaear;
Ac heb fod croglath#ar y ddaear heb adarwr. LXX. i fagl ar y—heb adarwr. Vulg. iddo:
A gyfyd magl oddiar y ddaear;
Ac heb ddàl dim.#a dalfa heb ei dal. Hebr.
6A chwythir udgorn mewn dinas:
Ac heb ddychrynu o’r bobl:
A fydd drwg mewn dinas;
Ac heb i’r Arglwydd ei wneuthur.
7Canys ni wna yr Arglwydd Iôr#Dduw. LXX., Vulg. arglwyddiaethau. Syr. ddim:
Heb ddadguddio o hono ei ddirgelwch:
I’w weision y proffwydi.
8Rhuodd llew,
Pwy nid ofna;
Yr Arglwydd Iôr#arglwydd arglwyddiaethau. Syr. a lefarodd,
Pwy#a phwy ni. LXX ni phroffwyda.
9Perwch glywed ar balasau#i diroedd, wledydd. LXX. yn Ashdod;#yn mysg yr Assuriaid. LXX.
Ac ar balasau yn ngwlad yr Aipht:
A dywedwch,
Ymgesglwch#oll o honoch. ar fynyddoedd#mynydd. LXX. Samaria;
A gwelwch derfysgoedd#bethau rhyfedd. LXX. gwallgofderau. Vulg. lawer o’i mewn;
A’r gorthrymedigion#gorthrwm. Syr. LXX. yn ei chanol hi.
10Ac ni fedrant wneuthur uniondeb,#nid adnabu y pethau fyddant yn ei herbyn hi. LXX. cerydd. Syr. medd yr Arglwydd;
Y rhai a bentyrant drais ac ysbail yn eu palasau.#tiroedd. LXX.
11Am hyny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Iôr;
Cyfyngder a fydd o amgylch y wlad:#blinir a chylchir y. Vulg.
Ac efe a dỳn#a thynir ymaith. Vulg. tynwyd i lawr ei nerth oddiwrthi. Syr. i lawr dy nerth oddiwrthyt;
A’th balasau a ysbeilir.
12Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Fel yr achub y bugail o safn y llew,
Ddwy goes neu ddarn o glust;
Felly yr achubir meibion Israel,
Y rhai sydd yn trigo yn Samaria;
Ar gŵr gwely ac ar sidan glwth.#a glythau yn Damascus, a glythau Damascus. gyferbyn â’r llwyth ac yn D. LXX. trwy wiaien o, a thrwy bobl o. Syr.
13Gwrandewch#offeiriaid, gwrandewch LXX. a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob:
Medd yr Arglwydd Iôr, Duw y lluoedd.
14Mai yn y dydd yr ymwelwyf#y dechreuaf ymweled. Vulg. ag anwireddau#annghywirderau. Vulg. Israel arno ef:
Yr ymwelaf hefyd ag allorau Bethel;
A thorir cyrn yr allor;#allorau. Syr.
A syrthiant i’r llawr.
15A mi a darawaf y tŷ gauaf#amdoedig. LXX. a’r tŷ haf:
A derfydd y tai ifori,
A dybenir tai lawer,#a chwanegir tai ereill lawer. LXX.
Medd yr Arglwydd.
موجودہ انتخاب:
Amos 3: PBJD
سرخی
شئیر
موازنہ
کاپی
کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.