Amos 2
2
PEN II.—
1Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Moab;
Ac am bedwar,
Ni throaf hyny yn ol:#oddiwrthynt. Syr. nis troaf ef ymaith. LXX.
Am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch.
2A mi a anfonaf dân yn Moab;
Ac efe a ddifa balasau#seiliau. LXX. demlau. Vulg. y dinasoedd:#Cerioth.
A Moab a fydd marw mewn terfysg;#anallu. LXX.
Mewn gwaeddi, mewn sain udgorn.
3A mi a doraf ymaith farnwr o’i chanol:
A’i holl dywysogion a laddaf gydag ef,
Medd yr Arglwydd.
4Fel hyn#y pethau hyn. LXX., Vulg. y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Judah;#meibion Judah. LXX.
Ac am bedwar,
Ni throaf hyny yn ol:#nis troaf ef ymaith. LXX.
Am wrthod o honynt gyfraith yr Arglwydd,
Ac nas cadwasant ei ddeddfau Ef;
Ac i’w celwyddau#gwageddusion. LXX. eilunod. Vulg. beri iddynt gyfeiliorni;
Y rhai y rhodiodd eu tadau yn eu hol.
5A mi a anfonaf dân yn Judah;
Ac efe a ddifa balasau#seiliau. LXX. demlau. Vulg. Jerusalem.
6Fel hyn#y pethau hyn. LXX., Vulg. y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Israel,
Ac am bedwar,
Ni throaf hyny yn ol:
Am iddynt werthu gŵr uniawn am arian;
A thlawd#cystuddiedig, diniwaid, a sangant ar y tlodion am. Syr. am bâr o sandalau.
7Y rhai#y rhai (sandalau) a sangant ar lwch y ddaear ac a bwyasant ar ben tlodion. LXX. y rhai a bwyant—a gogwyddant i ffordd y drygionus. Syr. a drylliant ben y tlodion ar lwch y ddaear. Vulg. a ddyheuant am lwch daear ar ben tlodion;
A ffordd rhai cystuddiedig a wyrant:
A gwr a’i dad a ant at y llances;
I halogi fy enw santaidd I.
8Ac ar ddillad wedi eu rhoi yn wystl y gorweddant;
Wrth bob allor:#a chan rwymo eu dillad wrth linynau gwnaethant leni wrth yr allor. LXX.
A gwin y dirwyedig#camgyhuddiau, trais. LXX. gwin hen. Syr. a yfant;
Yn nhŷ eu duwiau.#duw. Vulg.
9A myfi a ddinystriais yr Amoriad o’u blaen hwynt;
Yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder cedrwydd,
Ac efe oedd gryf fel derw:
A dinystriais#gwywais. LXX. drylliais. Vulg. ei ffrwyth oddiarnodd;
A’i wraidd odditanodd.
10A myfì a’ch dygais i fyny o wlad yr Aipht:
Ac a wnawn i chwi gerdded#a’ch dygais o amgylch. LXX. a’ch arweiniais. Vulg. yn yr anialwch ddeng mlynedd;
I feddianu gwlad yr Amoriad.#Amoriaid. LXX.
11A chyfodwn broffwydi o’ch meibion;
A Nazareaid#yn santeiddrwydd, yn rhai santaidd. LXX. o’ch gwŷr ieuanc:
Oni bu hyn, meibion Israel,
Medd yr Arglwydd.
12A chwi a roisoch i’r Nazareaid#i’r rhai santeiddiedig. LXX. win i’w yfed:
Ac am y proffwydi y gorchymynasoch, gan ddywedyd:
Na phroffwydwch.
13Wele fi wedi fy llethu#yn eich llethu, gwasgu i lawr fel y gwasg y— yn treiglo danoch. LXX. yn gwichian. Vulg. tanoch:
Fel y llethir y fen lawn o ysgubau.
14A metha gan y buan ffoi;#methu ffoad gan y rhedwr. LXX. gan y buan. Vulg.
A chryf ni chadarnha#ni ddeil. ei rym:
A gwr cadarn#ymladdwr. LXX. ni weryd ei einioes.
15Ni saif a ymaflo mewn bwa;
Ni ddianc y buan o draed:#ar ei yrfa. Syr.
Ac a farchogo ar y march: Ni weryd ei einioes.
16A chryf ei galon yn mhlith y cedyrn;#fel cawr. Syr.
A ffy yn noeth yn y dydd hwnw,
Medd yr Arglwydd.
موجودہ انتخاب:
Amos 2: PBJD
سرخی
شئیر
موازنہ
کاپی
کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.