Y Salmau 98
98
SALM XCVIII
Cantate Domino.
Annog pob creadur i foli Duw, am ei allu, a’i drugaredd, a ffyddlondeb ei gyfammod ynghrist, drwy’r hwn y mae ein cadwedigaeth ni.
1Cenwch i’r Arglwydd newydd gân,
ei waith fu lân ryfeddod:
Ei law ddeau a’i fraich a wnaeth,
i’n iechydwriaeth parod.
2Yr Arglwydd hysbys in’ y gwnaeth
ei iechydwriaeth gyhoedd:
A’i gyfiownder ef yn dra hawdd
datguddiawdd i’r cenhedloedd.
3Fe gofiodd ei drugaredd hir,
a’i wir i dy Israel,
Fel y gwelodd terfynau’r byd
ei iechyd yn ddiymgel.
4I’r Arglwydd â chaniad llafar,
chwi yr holl ddaiar cenwch:
A llafar lais, ac eglur lef,
fry hyd y nef y lleisiwch.
5Cenwch i’r Arglwydd Dduw fal hyn
â’r delyn, a chywirdant:
A chydâ’r delyn lais a thon,
rhowch iddo gyson foliant.
6Canu yn llafar ac yn rhwydd,
o flaen yr Arglwydd Frenin:
Ar yr udgyrn, a’r chwŷthgyrn pres,
fel dyna gyffes ddibrin.
7A rhued y mor mawr i gyd,
a’r byd, ac oll sydd ynthynt,
8Y llifddyfroedd, a’r mynyddoedd,
y mae yn addas iddynt.
9Curant, canant, o flaen Duw cu,
yr hwn sy’n barnu’r bydoedd.
I’r byd y rhydd ei farn yn iawn,
ac yn uniawn i’r bobloedd.
Поточний вибір:
Y Salmau 98: SC
Позначайте
Копіювати
Порівняти
Поділитись
Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017