Y Salmau 126

126
SALM CXXVI
In conuertendo.
Y psalm hon sydd yn dangos ryfedded fu gwarediad y bobl allan o gaethiwed Babylon,
ac mai yr Arglwydd a’i gwnaethei.
1Pan ddychwelodd ein gwir Dduw Ion
gaethiwed Seion sanctaidd:
Mor hyfryd gennym hyn bob un,
a rhai mewn hun nefolaidd.
2Nyni â’n genau yn dda’n gwedd,
gorfoledd ar ein tafod:
3Ymhlith cenhedloedd dwedynt hyn,
fe wnaeth Duw drostyn ysod.
4Ystod fawr a wnaeth Duw yn wir,
ein dwyn i’n tir cynnefin
O gaethiwed y gelyn llym,
am hyn yr ym yn chwerthin.
5O cynnull ein gweddillion ni,
tro adre’ rhei’ni eilwaith,
Gan dy lif-ddyfroedd fel y gwlych
y dehau sych a diffaith.
6Y rhai sy’n hau mewn dagrau blin,
hwyntwy dan chwerthin medant:
Felly f’Arglwydd dan droi y byd,
dwg ni i gyd i’r meddiant.
7Y rhai dan wylo aeth o’r wlad,
fel taflu hâd rhyd gryniau:
Drwy lawenydd y dont ynghyd,
fel casglu yd yn dyrrau.

Поточний вибір:

Y Salmau 126: SC

Позначайте

Копіювати

Порівняти

Поділитись

None

Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть