Y Salmau 124

124
SALM CXXIV
Nisi quia Dominus.
Y ffyddloniaid wedi eu gwaredu o’i peryglon, yn cyfaddef nad o’i nerth eu hun, eithr drwy drugaredd Duw y diangasant.
1Dyma’r amser yn ddi ymgel,
gall Israel, fynegi,
Yr Arglwydd nef oni bai ei fod
a’i arfod gydâ nyni.
2Gydâ ni oni bai ei fod,
pan ddaeth gwrth-drafod dynion:
3Pan gododd llid i’n, a phoeni,
llyngcasent ni yn fywion.
4Y dyfroedd a’n boddasent ni,
a’n hoes dan gefn lli buan:
5Chwyddasent drosom, fel chwydd dwr:
fal dyna gyflwr truan.
6Bendigaid Ior ei law a droes:
ac ef ni roes mo honom
Yn ysglyfaeth i’n rhwygo’n frau
iw gwâg efeilliau llymion.
7Ein henaid aeth yn rhydd o lyn,
fal yr aderyn gwirion,
Rhwyd yr adarwr torri a wnaeth,
a minnau aeth yn rhyddion.
8Ein holl gynnorthwy ni, a’n llwydd,
sy’n nerth yr Arglwydd howddgar,
Yr hwn drwy waith ei ddwylaw ef,
a greawdd nef a daiar.

Поточний вибір:

Y Salmau 124: SC

Позначайте

Копіювати

Порівняти

Поділитись

None

Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть