Y Salmau 113
113
SALM CXIII
Laudate pueri.
Cyngor i foli Duw am ei ddaioni iw bobl.
1Chwi weision Duw molwch yr Ion,
Molwch ei enw â llafar don,
2bendigaid fytho ei enw ef.
3O godiad haul hyd fachlud dydd,
Mawr enw yr Ion moliannus fydd,
yn y byd hwn, ac yn y nef.
4Derchafodd Duw uwch yr holl fyd:
A’i foliant aeth uwch nef i gyd,
5pwy sy gyffelyb i’n Duw ni?
Yr hwn a breswyl yn y nef,
6I’r ddaear hon darostwng ef,
gwyl ef ein cam, clyw ef ein cri.
7Yr hwn sy’n codi’r tlawd o’r llwch:
A’r rheidus o’i ddiystyrwch,
8iw gosod uwch pennaethiaid byd.
9I’r ammhlantadwy mae’n rhoi plant,
Hil teg, a thylwyth, a llwyddiant:
am hyn moliennwch Dduw i gyd.
Gogoniant fyth a fytho i’r Tâd:
A bid gogoniant i’r Mab rhad,
i’r Yspryd glân gogoniant fo:
Megis gynt yn y dechreu yr oedd,
Ac y bydd byth yn oes oesoedd,
dwedwn Amen, poed felly y bo.
Поточний вибір:
Y Salmau 113: SC
Позначайте
Копіювати
Порівняти
Поділитись
Хочете, щоб ваші позначення зберігалися на всіх ваших пристроях? Зареєструйтеся або увійдіть
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017