Rhufeiniaid 13
13
A.D. 60. —
1 Ymddarostwng, a llawer o bethau eraill, sydd ddyledus i’r llywodraethwyr. 8 Mai cariad yw cyflawnder y ddeddf. 11 Bod glythineb, a meddwdod, a gweithredoedd y tywyllwch, yn anaddas yn amser yr efengyl.
1 #
Titus 3:1; 1 Pedr 2:13 Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys #Ioan 19:11nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu #13:1 trefnu.hordeinio. 2Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. 3Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i’r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna’r hyn sydd dda, a #1 Pedr 2:14thi a gei glod ganddo: 4Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg. 5Herwydd paham #Preg 8:2anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd. 6Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy, yn gwylied ar hyn yna. 7#Mat 22:21; Marc 12:17; Luc 20:25Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i’r hwn y mae toll; ofn, i’r hwn y mae ofn; parch, i’r hwn y mae parch yn ddyledus. 8Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys #Gal 5:14; 1 Tim 1:5; Iago 2:8yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith. 9Canys hyn, #Exod 20:13 &c; Deut 5:17 &cNa odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, #Lef 19:18; Mat 22:39; Gal 5:14; Iago 2:8Câr dy gymydog fel ti dy hun. 10Cariad ni wna ddrwg i’w gymydog: am hynny #Mat 22:40; Ad. 8cyflawnder y gyfraith yw cariad. 11A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni #1 Cor 15:34; Eff 5:14; 1 Thess 5:5, 6ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom. 12Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny #Eff 5:11; Col 3:8bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a #Eff 6:13; 1 Thess 5:8gwisgwn arfau’r goleuni. 13#Phil 4:8; 1 Thess 4:12Rhodiwn yn #13:13 onest.weddus, megis wrth liw dydd; #Luc 21:34; 1 Pedr 4:3nid mewn cyfeddach a meddwdod, #1 Cor 6:9nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, #Iago 3:14nid mewn cynnen a chenfigen. 14Eithr #Gal 3:27gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac #Gal 5:16; 1 Pedr 2:11na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.
Selectat acum:
Rhufeiniaid 13: BWM1955C
Evidențiere
Împărtășește
Compară
Copiază
Dorești să ai evidențierile salvate pe toate dispozitivele? Înscrie-te sau conectează-te
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society