YouVersion
Pictograma căutare

Rhufeiniaid 12

12
A.D. 60 —
1 Y dylai trugareddau Duw ein cynhyrfu ni i ryngu ei fodd ef. 3 Na ddylai neb feddwl yn rhy dda ohono ei hun; 6 eithr bod yn ddiwyd yn yr alwedigaeth y gosodwyd ef ynddi. 9 Cariad, a llawer eraill o rinweddau, a ofynnir gennym: 19 a dial yn bendifaddau a warafunir i ni.
1Am hynny #2 Cor 10:1yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, #Salm 50:13, 14; Pen 6:13, 16; 1 Pedr 2:5roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi. 2Ac #1 Ioan 2:15na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr #Eff 1:18; 4:23; Col 1:21, 22; 3:10ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel #Eff 5:10, 17; 1 Thess 4:3y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. 3Canys yr wyf yn dywedyd, #Pen 15:15trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn eich plith, #Diar 25:27; Preg 7:16na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, #1 Cor 12:7, 11; Eff 4:7fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd. 4Canys #1 Cor 12:12; Eff 4:16megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd: 5Felly #1 Cor 10:17ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’w gilydd. 6A #1 Cor 12:4; 1 Pedr 4:10, 11chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai #1 Cor 12:10, 28; 13:2; 14:1, 29, 31proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd; 7Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; #Eff 4:11; 1 Tim 5:17neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth; 8Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: #Mat 6:1, 2, 3yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; #1 Tim 5:17yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, #2 Cor 9:7mewn llawenydd. 9#1 Tim 1:5; 1 Pedr 1:22 Bydded cariad yn ddiragrith. #Salm 36:4; 97:10; Amos 5:15Casewch y drwg, a glynwch wrth y da. 10#Heb 13:1; 1 Pedr 2:17Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; #Phil 2:3; 1 Pedr 5:5yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd: 11Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd: 12#Phil 4:4; 1 Thess 5:16Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; #Luc 18:1yn dyfalbarhau mewn gweddi: 13#1 Cor 16:1Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint; ac #Heb 13:2; 1 Pedr 4:9yn dilyn lletygarwch. 14#Mat 5:44Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch. 15Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo. 16#Pen 15:5; 1 Pedr 3:8 Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: #Salm 131:1, 2; Jer 45:5heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr #12:16 yn fodlon i bethau isel.yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. #Esa 5:21; Pen 11:25Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. 17#Diar 20:22; Mat 5:39; 1 Thess 5:15; 1 Pedr 3:9Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. #2 Cor 8:21Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn. 18Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, #12:18 yn byw yn heddychlon.#Heb 12:14byddwch heddychlon â phob dyn. 19#Lef 19:18Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, #Deut 32:35; Heb 10:30I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. 20Am hynny, #Diar 25:21os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri #12:20 farwor tân.farwor tanllyd ar ei ben ef. 21Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.

Evidențiere

Împărtășește

Compară

Copiază

None

Dorești să ai evidențierile salvate pe toate dispozitivele? Înscrie-te sau conectează-te

Videoclipuri pentru Rhufeiniaid 12