1
Salm 22:1
beibl.net 2015, 2024
bnet
Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i? Dw i’n griddfan mewn poen, pam wyt ti ddim yn fy achub i?
2
Salm 22:5
Dyma nhw’n gweiddi arnat ti a llwyddo i ddianc; roedden nhw wedi dy drystio di, a chawson nhw mo’u siomi.
3
Salm 22:27-28
Bydd pobl drwy’r byd i gyd yn gwrando ac yn troi at yr ARGLWYDD. Bydd pobl y gwledydd i gyd yn ei addoli, am mai’r ARGLWYDD ydy’r Brenin! Fe sy’n teyrnasu dros y cenhedloedd.
4
Salm 22:18
Maen nhw’n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, ac yn gamblo am fy nghrys.
5
Salm 22:30-31
Bydd plant yn ei wasanaethu; a bydd enw’r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi i’r genhedlaeth sydd i ddod. Byddan nhw’n dweud am ei gyfiawnder wrth y rhai sydd ddim eto wedi’u geni! Mae e wedi’i wneud!