1
Ioan 3:16
beibl.net 2015, 2024
bnet
“Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
2
Ioan 3:17
Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio’r byd.
3
Ioan 3:3
Dyma Iesu’n ymateb drwy ddweud hyn wrtho: “Cred di fi – all neb weld Duw’n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod.”
4
Ioan 3:18
Dydy’r rhai sy’n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae’r rhai sydd ddim yn credu wedi’u condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw.
5
Ioan 3:19
Dyma’r dyfarniad: Mae golau wedi dod i’r byd, ond mae pobl wedi caru’r tywyllwch yn fwy na’r golau. Pam? Am eu bod nhw’n gwneud pethau drwg o hyd.
6
Ioan 3:30
Rhaid iddo fe ddod i’r amlwg; rhaid i mi fynd o’r golwg.”
7
Ioan 3:20
Mae pawb sy’n gwneud pethau drwg yn casáu’r golau. Maen nhw’n gwrthod dod allan i’r golau rhag ofn i’w gweithredoedd gael eu gweld.
8
Ioan 3:36
Mae bywyd tragwyddol gan bawb sy’n credu yn y Mab, ond fydd y rhai sy’n gwrthod y Mab ddim hyd yn oed yn cael cipolwg o’r bywyd hwnnw. Bydd digofaint Duw yn aros arnyn nhw.
9
Ioan 3:14
Cododd Moses neidr bres ar bolyn yn yr anialwch. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy nghodi yr un fath.
10
Ioan 3:35
Mae Duw y Tad yn caru’r Mab ac wedi rhoi popeth yn ei ofal e.