Hosea 2

2
1Dywedwch wrth eich brodyr “Ammi”,#2:1 “Ammi” H.y. Fy mhobl
Ac wrth eich chwiorydd “Rwhama”.#2:1 “Rwhama” H.y. Yr hon y tosturiwyd wrthi
2Dadleuwch â’ch mam, dadleuwch,
Canys nid yw hi wraig i mi,
Ac nid wyf innau ŵr iddi,
Fel y bwrio ymaith ei phuteindra o’i golwg,
A’i godineb oddi rhwng ei bronnau,
3Rhag imi ei diosg yn noeth,
A’i harddangos fel yn nydd ei geni;
A’i gosod fel yr anialwch,
A’i dodi fel tir cras,
A’i lladd â syched;
4Ac na thosturiwyf wrth ei meibion,
Am mai meibion puteindra ydynt.
5Canys puteiniodd eu mam,
Bu waradwyddus yr hon a feichiogodd arnynt,
Oblegid dywedodd, “Af ar ol fy nghariadau,
Sy’n rhoddi fy mara a’m dwfr,
Fy ngwlân a’m llîn, fy olew a’m diodydd.”
6Am hynny wele fi’n cau dy#2:6 LXX ei ffordd â drain,
Ac argaeaf ei mur fel na chaffo hi ei llwybrau.
7Dilyn hithau ei chariadau, ond nis goddiwedda
Cais hwynt hefyd, ond nis caiff.
Yna y dywed, “Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf,
Canys gwell oedd arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.”
8Ac ni wyddai hi mai myfi a roes iddi
Yr yd a’r melyswin a’r olew ir,
Ac a amlhaodd iddi arian,
Ac aur — a wnaethant yn Faal.
9Am hynny cymeraf yn ol fy yd yn ei amser,
A’m melyswin yn ei dymor,
A chipiaf ymaith fy ngwlân a’m llîn a gudd ei noethni.
10Ac yn awr datguddiaf ei hanniweirdeb yng ngolwg ei chariadau,
Ac ni chipia neb hi o’m llaw;
11A pharaf beidio o’i holl orfoledd,
Ei phererindod, ei Newyddloer, a’i Sabath,
A phob defod-ŵyl ganddi.
12A difrodaf ei gwinwydd a’i ffigyswydd, y dywed amdanynt
“Fy nghyflog ydynt, a roddes fy nghariadau imi,”
A gosodaf hwynt yn brysgwydd,
A bwyty bwystfil y maes hwynt.
13A gofwyaf hi am ddyddiau’r Baalim,
Pan losgodd aberth iddynt,
Ac yr ymbinciodd â’i modrwyau a’i thlysau,
Ac yr aeth ar ol ei chariadau,
Ac yr anghofiodd fi, medd Iafe.
14Am hynny wele fi’n ei denu,
A dygaf hi i’r anialwch,
A llefaraf yn serchus wrthi;
15A rhoddaf iddi ei gwinllannoedd oddiyno,
A Dyffryn Achor yn ddrws gobaith;
Ac etyb yno fel yn nyddiau ei hieuenctid,
Ac fel yn nydd ei dyfod i fyny o wlad yr Aifft.
16Ac yn y dydd hwnnw, medd Iafe, y’m gelwi “Fy ngŵr”,#2:16 “Fy ngŵr” Heb. Ishi,
Ac ni’m gelwi mwyach “Fy meistr”;#2:16 “Fy meistr” Heb. Baali;
17A bwriaf ymaith enwau’r Baalim o’i genau,
Ac nis cofir mwyach wrth eu henw.
18Gwnaf hefyd gyfamod iddynt y dydd hwnnw â bwystfil y maes,
Ac ag ehediad yr awyr, ac ymlusgiad y ddaear,
A drylliaf fwa a chleddyf a chad o’r tir,
A gwnaf iddynt orwedd mewn diogelwch.
19A dyweddïaf di â mi byth,
Ie dyweddïaf di â mi mewn cyfiawnder ac mewn barn,
Ac mewn caredigrwydd ac mewn tosturi;
20A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb, ac adnabyddi#2:20 adnabyddi Amryw L. adnabyddiaeth o Iafe.
21Ac yn y dydd hwnnw atebaf, medd Iafe, atebaf yr wybrennau,
Atebant hwythau’r ddaear,
22Ac etyb y ddaear yr yd a’r melyswin a’r olew ir,
Atebant hwythau Iesrëel.
23A heuaf hi imi yn y tir,
A thosturiaf wrth Lo-rwhama,#2:23 Gweler i. 6.
A dywedaf wrth Lo-ammi,#2:23 Gweler i. 9. “Fy mhobl wyt.”
Dywed yntau, “Fy Nuw.”

Terpilih Sekarang Ini:

Hosea 2: CUG

Highlight

Kongsi

Salin

None

Ingin menyimpan sorotan merentas semua peranti anda? Mendaftar atau log masuk

YouVersion menggunakan kuki untuk memperibadikan pengalaman anda. Dengan menggunakan laman web kami, anda menerima penggunaan kuki kami seperti yang diterangkan dalam Polisi Privasi kami