1
Datguddiad 19:7
beibl.net 2015, 2024
bnet
Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddu a rhoi clod iddo! Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd, ac mae’r ferch sydd i’w briodi wedi gwneud ei hun yn barod.
2
Datguddiad 19:16
Ar ei glogyn wrth ei glun mae’r teitl hwn wedi’i ysgrifennu: BRENIN AR FRENHINOEDD AC ARGLWYDD AR ARGLWYDDI.
3
Datguddiad 19:11
Roedd y nefoedd yn llydan ar agor, ac o mlaen i roedd ceffyl gwyn â marchog ar ei gefn. ‘Yr Un ffyddlon’ ydy’r enw arno, a’r ‘Un gwir’. Mae’n gyfiawn yn y ffordd mae’n barnu ac yn ymladd yn erbyn ei elynion.
4
Datguddiad 19:12-13
Roedd ei lygaid fel fflam dân, ac roedd llawer o goronau ar ei ben. Roedd ganddo enw wedi’i ysgrifennu arno, a neb yn gwybod yr enw ond fe’i hun. Roedd yn gwisgo dillad oedd wedi’u trochi mewn gwaed, a’i enw oedd ‘Gair Duw’.
5
Datguddiad 19:15
Roedd cleddyf miniog yn dod allan o’i geg, a bydd yn ei ddefnyddio i daro’r cenhedloedd i lawr. “Bydd yn teyrnasu drostyn nhw gyda theyrnwialen haearn.” Bydd yn sathru’r gwinwryf (sy’n cynrychioli digofaint ffyrnig y Duw Hollalluog).
6
Datguddiad 19:20
Ond daliwyd yr anghenfil, a hefyd y proffwyd ffug oedd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol ar ei ran. Gyda’i wyrthiau roedd wedi llwyddo i dwyllo y bobl hynny oedd wedi’u marcio gyda marc yr anghenfil ac wedi addoli ei ddelw. Cafodd yr anghenfil a’r proffwyd ffug eu taflu yn fyw i’r llyn tân sy’n llosgi brwmstan.