1
Salm 119:105
beibl.net 2015, 2024
bnet
Mae dy eiriau di yn lamp i’m traed, ac yn goleuo fy llwybr.
2
Salm 119:11
Dw i’n trysori dy neges di yn fy nghalon, er mwyn peidio pechu yn dy erbyn.
3
Salm 119:9
Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? – drwy wneud fel rwyt ti’n dweud.
4
Salm 119:2
Mae’r rhai sy’n gwneud beth mae’n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi’u bendithio’n fawr!
5
Salm 119:114
Ti ydy’r lle saff i mi guddio! Ti ydy’r darian sy’n fy amddiffyn! Dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi!
6
Salm 119:34
Helpa fi i ddeall, a bydda i’n cadw dy ddysgeidiaeth di; bydda i’n ymroi i wneud popeth mae’n ei ofyn.
7
Salm 119:36
Gwna fi’n awyddus i gadw dy amodau di yn lle bod eisiau llwyddo’n faterol.
8
Salm 119:71
Roedd yn beth da i mi orfod dioddef, er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau.
9
Salm 119:50
Yr hyn sy’n gysur i mi pan dw i’n isel ydy fod dy addewidion di yn rhoi bywyd i mi.
10
Salm 119:35
Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau’i wneud.
11
Salm 119:33
O ARGLWYDD, dysga fi i fyw fel mae dy gyfraith di’n dweud; a’i dilyn i’r diwedd.
12
Salm 119:28
Mae tristwch yn fy lladd i! Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!
13
Salm 119:97
O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di! Dw i’n myfyrio ynddi drwy’r dydd.