Mathew 24
24
Rhagfynegi Dinistr y Deml
1A’r Iesu a aeth allan, ac a oedd ar ei ffordd o’r deml; a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. 2A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Oni welwch chwi y rhai hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, ni adewir yma garreg ar garreg nas datodir.’
Arwyddion o Ddiwedd y Byd
3Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu, gan ddywedyd, ‘Mynega i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? A pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd?’
4A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt: ‘Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. 5Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, “Myfi yw Crist”, ac a dwyllant lawer. 6A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd. Gwelwch na chyffroer chwi; canys rhaid yw bod hyn oll, eithr nid yw’r diwedd eto. 7Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Ac fe fydd newyn a heintiau, a daeargrynfâu mewn mannau. 8Ond dechreuad gofidiau yw hyn oll.
9‘Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu ac a’ch lladdant; a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. 10Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. 11A gau broffwydi lawer a godant ac a dwyllant lawer. 12Ac oherwydd yr amlha anghyfraith, fe a oera cariad llawer. 13Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 14A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd; ac yna y daw’r diwedd.
Y Gorthrymder Mawr
15‘Am hynny pan weloch “y ffieidd‐dra anghyfanheddol”, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd — y neb a ddarlleno, dealled — #Daniel 11:31; 12:11 16yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd. 17Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd pethau allan o’i dŷ. 18A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad. 19A gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. 20Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth. 21Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. 22Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll; eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. 23Yna os dywed neb wrthych, “Wele, dyma Grist”, neu “Dyma”, na chredwch. 24Canys cyfyd gau Gristiau a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 25Wele, rhagddywedais i chwi.
26‘Am hynny, os dywedant wrthych, “Wele, y mae efe yn y diffeithwch”, nac ewch allan; “Wele, yn yr ystafelloedd”, na chredwch. 27Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain ac y tywynna hyd y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn. 28Canys pa le bynnag y byddo’r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.
Dyfodiad Mab y Dyn
29‘Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny,
“y tywyllir yr haul,
a’r lleuad ni rydd ei goleuni,
a’r sêr a syrth o’r nef,
a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.”
30Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef, ac yna y galara holl lwythau y ddaear, a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef gyda nerth a gogoniant mawr. 31Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn, a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.
32‘Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren. Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a’i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos. 33Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau. 34Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon heibio hyd oni wneler hyn oll. 35Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
36‘Ond am y dydd hwnnw a’r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig. 37Ac fel yr oedd dyddiau Noa, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 38Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau o flaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i’r arch, 39ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw a’u cymryd hwy oll ymaith, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 40Yna y bydd dau yn y maes; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 41Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a’r llall a adewir.
42‘Gwyliwch gan hynny, am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd. 43A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 44Am hynny byddwch chwithau barod; canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.
45‘Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei weision i roddi bwyd iddynt mewn pryd? 46Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. 47Yn wir meddaf i chwi, ar ei holl dda y gesyd efe ef. 48Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, “Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod”, 49a dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon, 50arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe. 51Ac efe a’i rhwyga’n ddau, ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr. Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 24: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക
നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക